Logo for North Wales Children's University with smiley face

Mae Prifysgol y Plant, sy’n anelu at ysbrydoli cariad at ddysgu ymhlith plant a phobl ifanc drwy hyrwyddo a gwobrwyo gweithgareddau dysgu, yn cael ei hymestyn ar draws Gogledd Cymru ar ôl sicrhau dros £800,000 o gyllid.

Bydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a nifer o bartneriaid gan gynnwys Prifysgol Bangor yn peilota Prifysgol y Plant ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn tan fis Chwefror 2024.

Bydd cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddefnyddio i recriwtio staff ar draws y rhanbarth a bydd y timau newydd yn ymgysylltu gyda thros 40 o ysgolion a 1000 o bobl ifanc.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot Wrecsam a Sir y Fflint yn 2021, bydd disgyblion yn cael eu herio i gwblhau 30 awr o weithgareddau allgyrsiol a gwirfoddol, yn eu hysgolion, yn eu cymunedau, ar-lein ac yn eu cartrefi, er mwyn ennill codau stamp a gaiff eu trosglwyddo i amser.

Bydd y bobl ifanc sy’n cyflawni eu tystysgrif Efydd, 30 awr, yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni arbennig mewn cap a gwisg graddio i’w gwobrwyo am eu gwaith caled.

Ymwelwch â’n sianel YouTube i weld beth wnaeth y bobl ifanc yng Nghynllun Peilot 2021

Boys watching a slime demonstration

Awydd cymryd rhan?

Rydym yn chwilio am ysgolion arloesol a chreadigol i ymuno â Chynllun Peilot Gogledd Cymru. Bydd y grant yn ariannu 35 o bobl ifanc, fesul ysgol, i ddod yn aelodau o Brifysgol y Plant o fis Medi 2023 tan fis Chwefror 2024. 

Bydd pob unigolyn ifanc yn cael y canlynol 

  • Pasbort i Ddysgu
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
  • Tystysgrifau am gyflawni 30 awr
  • Gwahoddiad i fynd i Seremoni Raddio ym mis Ionawr / Chwefror 2024  

Bydd pob aelod o staff yn cael y canlynol

  • Hyfforddiant
  • Llythyrau templed
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
  • Cefnogaeth drwy gydol y peilot

Bydd yn rhaid i bob ysgol ymrwymo i benodi dau gydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol.

Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc ym mlynyddoedd 4-8 mewn ysgol ac yn awyddus i gofrestru grŵp o hyd at 35 o bobl ifanc ar y cynllun, gallwch ddarganfod mwy a chofrestru eich diddordeb drwy glicio yma.

Sylwch os gwelwch yn dda, nid yw cwblhau’r cofrestriad yn golygu y byddwch yn cael eich derbyn ar y cynllun.

School children on  a trip to the zoo

Angen rhagor o wybodaeth?

Os hoffech chi ddysgu mwy am Brifysgol y Plant cyn llenwi’r ffurflen datgan diddordeb, mae croeso i chi fynd i un o’n sesiynau gwybodaeth ar-lein ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun 22 Mai am 10yb
  • Dydd Mercher 24 Mai am 2.30pm
  • Dydd Iau 25 Mai am 1.30pm
  • Dydd Gwener 26 Mai am 4pm
  • Dydd Llun 5 Mehefin am 1.30pm
  • Dydd Mawrth 6 Mehefin am 9.30am
  • Dydd Mercher 7 Mehefin am 12.30pm
  • Dydd Iau 8 Mehefin am 9.30am
  • Dydd Gwener 9 Mehefin am 11am

Cofrestrwch ar gyfer eich sesiwn ddewisol, drwy e-bostio – childrens.university@glyndwr.ac.uk

 

Cwestiynau Cyffredin Cynllun Peilot Gogledd Cymru

Ydy fy ysgol yn gymwys i wneud cais?    

Os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed ac yn cynnig gweithgareddau lle mae dysgu'n digwydd a bod dewis i gymryd rhan, gallwn weithio gyda chi.            

Pwy ddylai gymryd rhan?           

Bydd eich ysgol yn gallu dewis pa bobl ifanc i gymryd rhan yn y cynllun, ond rydym yn gofyn i chi roi ystyriaeth i’r canlynol;      

  • Plant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim?
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Plant sy’n Sipsiwn a Theithwyr
  • Plant sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol
  • Plant ag anableddau
  • Plant o aelwydydd BAME (Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig)
  • Plant o deuluoedd lle nad yw’r rhiant / gwarcheidwad wedi bod i’r Brifysgol
  • Plant sydd mewn perygl o ddatgysylltu o’r ysgol
  • Gofalwyr Ifanc

chewbacca and students graduation

Beth sy’n digwydd pan ddaw’r peilot i ben?

Bydd y bobl ifanc dan sylw yn gallu cadw eu Pasbortau i Ddysgu a byddant yn cael eu hannog i ymchwilio i'r gweithgareddau a ddarperir yn y gymuned ehangach drwy Gyrchfannau Dysgu dilys.

Bydd ysgolion sy'n dewis parhau yn cael gwybod am y ffi aelodaeth flynyddol a fydd yn daladwy unwaith y daw'r peilot am ddim i ben.