Navigating the storm logo

Drawma ac ACE

Cefndir

Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam rydym yn gweithio i ddod yn sefydliad sy’n wybodus am Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (TrACE) - y Brifysgol gyntaf o’i fath yn y DU. Mae’r prosiect mewn partneriaeth â Hwb ACE Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fel y partner strategol arweiniol yn narpariaeth rhaglen Prifysgol y Plant ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i archwilio a chefnogi datblygiad y dull wedi’i lywio gan drawma i fodel Prifysgol y Plant. Rydym yn cynnig hyfforddiant am ddim i ysgolion a chyrchfannau dysgu ar draws Gogledd Cymru, er mwyn sefydlu ymarfer wedi’i lywio gan drawma o fewn Prifysgol y Plant Gogledd Cymru.

Gwyliwch ein animeiddiad yma - www.youtube.com/watch?v=uFSsE2qOnuw

Beth mae bod yn wybodus am TrACE yn ei olygu?

Mae bod yn wybodus am TrACE yn golygu datblygu dealltwriaeth o drawma a’i effaith eang. Ein nod yw cefnogi pobl sydd wedi wynebu trawma neu adfyd, gan hyrwyddo diwylliant sy’n sefydlu caredigrwydd, trugaredd a pharch i arferion bob dydd.

Mae dod yn wybodus am TrACE yn golygu datblygu dull sy’n cydnabod bod adfyd a thrawma yn bosibilrwydd ar gyfer pawb, yn hytrach na rhoi diagnosis neu drin symptomau trawma. Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, rydym yn ceisio hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer lles, gwella ac adfer, gan gydnabod y gallwn oll chwarae rhan i greu newid.

 

"Bydd pobl yn anghofio'r hyn a ddywedoch,

bydd pobl yn anghofio’r hyn a wnaethoch,

ond ni fyth pobl byth yn anghofio sut y bu i chi wneud iddynt deimlo"

- Maya Angelou

 

Ein nod yw lleihau effaith negyddol trawma ac adfyd. Credwn fod sefydliadau sy’n mabwysiadu dull TrACE, wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, yn gallu eu helpu i wella eu sgiliau cyfathrebu, eu helpu i reoleiddio eu hemosiynau ac adeiladu eu cadernid. Gall gyfnodau heriol fod yn anodd i lywio a gall gymorth ac arweiniad gan oedolyn, unai yn eu hysgol neu eu grŵp cymunedol, fod yn brofiad grymus.

Trace champion logo

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at traceinfo@wrexham.ac.uk