Wrexham City of Culture Logo 1

Dyrchafwn 'da'n Gilydd!

Cynllun Aedlodaeth Cymunedol Prifysgol y Plant

Ffurflen Mynegi Diddordeb

 

Mae Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant gan dîm Dinas Diwylliant. Fe’i lleolir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gydnabod cais Dinas Diwylliant 2025, lle daeth Wrecsam yn ail.

Mae Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant gan dîm Dinas Diwylliant. Fe’i lleolir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gydnabod cais Dinas Diwylliant 2025, lle daeth Wrecsam yn ail.

Bydd y grant yn ariannu 30 o bobl ifanc, fesul grŵp cymunedol, i ddod yn aelodau o Brifysgol y Plant am flwyddyn, heb gost.

Teenages graduating in caps and gowns

Bydd pob unigolyn ifanc yn cael y canlynol 

  • Rhifyn arbennig Pasbort i Ddysgu
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
  • Tystysgrifau am gyflawni 30 awr a 65 awr
  • Gwahoddiad i fynd i Seremoni Raddio am gyflawni 100 awr

Bydd pob aelod o staff yn cael y canlynol

  • Hyfforddiant
  • Llythyrau templed 
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
  • Cefnogaeth drwy’r flwyddyn.

Bydd yn rhaid i bob grŵp ymrwymo i benodi cydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol.

I wneud cais am un o'r lleoedd am ddim, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb erbyn y dyddiad cau - 6 Ionawr 2023  

Sylwch nad yw llenwi'r ffurflen yn gwarantu lle i'ch grŵp yn y cynllun.

 

Wrexham City of Culture Logo 1

Cwestiynau Cyffredin

 

Ydy fy ngrŵp yn gymwys i wneud cais? 

Os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed ac yn cynnig gweithgareddau lle mae dysgu'n digwydd a bod dewis i gymryd rhan, gallwn weithio gyda chi.

Children in graduation gowns around a game

Bydd yn rhaid i bob grŵp ymrwymo i benodi cydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol.

Ni fydd busnesau preifat a chyrff statudol (fel awdurdodau lleol, cynghorau cymuned neu dref) yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol cyfansoddiadol neu grŵp cymunedol sefydledig, gyda chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Bydd eich grŵp yn gallu dewis pa bobl ifanc i gymryd rhan yn y cynllun, ond rydym yn gofyn i chi roi ystyriaeth i’r canlynol;

  • Plant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Plant sydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol
  • Plant ag anableddau
  • Plant o deuluoedd lle nad yw'r rhiant / gwarcheidwad wedi bod i'r Brifysgol
  • Plant sydd mewn perygl o ddatgysylltu o'r ysgol
  • Gofalwyr Ifanc
  • Plant sy’n niwroamrywiol
  • Plant sydd dros bwysau
  • Plant sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl
  • Plant sy’n arddangos ymddygiad heriol
  • Plant sy’n aelodau o gymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr Gwyddelig.
  • Plant sy’n aelodau o grwpiau lleiafrif ethnig (Du, Asiaidd, grŵp lleiafrif ethnig neu dreftadaeth amlddiwylliannol).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cwblhewch yr ffurlen mynegi diddordeb y gellir dod o hyd iddo yma erbyn 17:30 ar 06.01.23 fan bellaf.

Bydd y ceisiadau yn cael eu sgorio yn wrthrychol gan banel.

Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais drwy e-bost, yr wythnos yn dechrau 23.01.23

Gellir anfon ymholiadau mewn perthynas â’r cynllun at childrens.university@glyndwr.ac.uk 

Os byddwch yn cael eich dewis, bydd Tîm Prifysgol y Plant yn cytuno gyda chi beth yw’r dyddiadau ar gyfer cwblhau’r hyfforddiant, gwaith papur a’r lansiad.  Mae’n rhaid cwblhau’r tasgau hyn erbyn mis Mawrth 2023 i fod yn gymwys ar gyfer y grant.

Beth sy'n digwydd pan ddaw'r flwyddyn i ben?

Bydd y bobl ifanc dan sylw yn gallu cadw eu Pasbortau i Ddysgu a byddant yn cael eu hannog i ymchwilio i'r gweithgareddau a ddarperir yn y gymuned ehangach drwy Gyrchfannau Dysgu dilys.

Bydd grwpiau sy'n dewis parhau yn cael gwybod am y ffi aelodaeth flynyddol a fydd yn daladwy unwaith y daw'r flwyddyn am ddim i ben.