
Ein Hymchwil
Yn unol â’n Strategaeth Ymchwil , mae ein hymchwil yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ddatblygiad Gogledd Cymru a thu hwnt o safbwynt economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Mae ein Gweledigaeth a’n Strategaeth yn amlinellu ein hymrwymiad i ragoriaeth, cynhwysiad, cydweithio, trawsnewidiad ac cynaliadwyedd, ac mae ein Cenhadaeth Ddinesig yn hybu cysylltiadau agos â’r gymuned leol.
Mae Prifysgol Wrecsam yn hyb ymchwil addawol sy’n parhau i ddatblygu ein hymchwilwyr a’n diwylliant o ran ymchwil. Rydym wedi arwyddo’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, sy’n dangos ein hymrwymiad i helpu ein hymchwilwyr i ddatblygu hyd orau eu gallu, ynghyd â chynyddu ein capasiti o ran cael dylanwad yn y byd go iawn o safbwynt y cyfoeth o arbenigedd a geir yma.
Adolygiad Ymchwil Blynyddol 23/24

Yr Athro Richard Day
Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil“Mae gan Brifysgol Wrecsam hanes maith o ymchwil sy’n dyddio’n ôl cyn cyfnod ein statws prifysgol, ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion cymdeithas, o safbwynt rhanbarthol a rhyngwladol. Mae canlyniadau ymarfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos bod y brifysgol yn cynhyrchu ymchwil ardderchog ar lefel ryngwladol, sy’n flaenllaw trwy’r Byd”