.jpg)
Cynllun Peilot Agwedd Genedlaethol at Ymholiadau Mewn Ysgolion
Tîm Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Wrecsam i arwain Cynllun Peilot Agwedd Genedlaethol at Ymholiadau Mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru
Dyfarnwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i Brifysgol Wrecsam i arwain y Prosiect Peilot Agwedd Genedlaethol at Ymholiadau mewn Ysgolion (NAtES).
Bydd y cynllun peilot cenedlaethol yn atgyfnerthu rôl ymholiad proffesiynol ac Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu mewn gwella ysgolion ar draws Cymru, gan archwilio sut mae prifysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau o ysgolion yn gallu gweithio gyda’i gilydd er mwyn datblygu agweddau mwy cyson a chynaliadwy tuag at arfer yn seiliedig ar dystiolaeth, dysgu proffesiynol a gwella ysgolion.
Mae Prifysgol Wrecsam wedi’i phenodi fel y sefydliad arweiniol dros bob un o’r saith o brifysgolion yng Nghymru sy’n rhan o’r prosiect. Yn y rôl hon, bydd y Brifysgol yn goruchwylio darpariaeth, cefnogaeth a chydweithredu cenedlaethol ar draws y sector addysg, ac arwain gwerthusiad o’r cynllun peilot. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith cenedlaethol blaenorol, gan gynnwys y Prosiect Ymholiad Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC) a’r prosiect Gwreiddio Ymchwil ac Ymholiad mewn Ysgolion (EREiS).
Mae’r gwaith cydlynu a gwerthuso cenedlaethol yn cael ei arwain gan Dr Sue Horder, Dr Richard Watkins, Dr Emma Tiesteel, Lisa Formby, yr Athro Carl Hughes ac Ann Bradshaw o dîm Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Wrecsam, gyda darpariaeth sy’n ffocysu ar ysgolion yn cael ei gefnogi gan Dr Karen Rhys Jones, Dr Kelly Smith a Dafydd Rhys.
Mae Cynllun Peilot NAtES yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu system addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n gosod Prifysgol Wrecsam ar y blaen o ran gwaith cenedlaethol i gefnogi gwella ysgolion a dysgu proffesiynol ar draws Cymru.