Prosiect Ysgolion Cymunedol
Yn 2023, comisiynwyd Dr Sue Horder, Tomos Gwydion ap Sion, Karen Rhys Jones, Lisa Formby a Gillian Danby, ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut mae ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn cymharu ag arferion, credoau ac agweddau ysgolion cymunedol.
Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae tîm Wrecsam sydd bellach yn cynnwys Nikki Ewing yn arwain cais ymchwil arfaethedig Ysgolion Bro, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, UWTSD a Llywodraeth Cymru. Eu cynllun yw gwneud cais am gyllid sylweddol i gynnal astudiaeth ymchwil gydweithredol 3 blynedd sy'n archwilio pwnc ehangach ysgolion bro a'r anfantais a wynebir gan blant a phobl ifanc yn y cymunedau hyn. Bydd cyfeiriad yr ymchwil yn cael ei ddylanwadu gan safbwyntiau, profiadau a lleisiau'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn ysgolion a chymunedau. Llwyddodd y tîm i dderbyn cynllun grant gweithdy ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru a grant cyllid sbarduno Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd i roi eu cynllun ar waith. Ar hyn o bryd mae gwaith ymchwil paratoadol ar y gweill gyda'r cyhoedd i gasglu’r safbwyntiau hyn trwy weithdai ac i ffurfio grŵp llywio i weithio'n uniongyrchol gyda'r tîm ymchwil.
Mae’r ymchwil hwn yn cael ei yrru gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Ysgolion Cymunedol fel rhan annatod o’i strategaeth ar gyfer Tegwch mewn Addysg. Wedi’i lywio gan ymchwil academaidd a pholisi yn y DU ac yn rhyngwladol, bydd yr ymchwil hwn yn helpu i alluogi holl blant a phobl ifanc Cymru i gael darpariaeth deg a chyfiawn sy’n gyfartal â gallu a photensial, gan eu galluogi i ddod yn ddinasyddion gweithredol, pwrpasol ac i dyfu fyny’n iach, hyderus, ac yn wydn.