Math prin ac ymosodol o ganser y gwaed yw lewcemia cell plasma. Mae'n cyfrif am 1-2% o achosion myeloma ymledol sydd newydd gael diagnosis, gyda dim ond 1 mewn 1,000,000 o bobl yn ei gael. Mae symptomau'n achosi gwanhau corfforol a llai o stamina, gan amharu'n ddifrifol ar swyddogaeth echddygol, iechyd meddwl ac ansawdd bywyd. 

Gan fod y canser mor brin, does fawr unrhyw ymchwil ar fynd i'r afael â'r effaith y gall ymarfer corff ei gael ar symptomau. Gwyddys fod ymarfer corff o fudd i gleifion canser, gyda chanolfannau adfer canser yn cael eu sefydlu ledled y DU gyda'r bwriad o helpu i adfer cleifion gyda mathau arbennig o ganser drwy ymarfer corff. 

Fodd bynnag, oherwydd natur lewcemia cell plasma, nid yw'r mwyafrif o ganolfannau adfer canser yn derbyn cleifion ar gyfer adferiad ymarfer corff. Mae hyn oherwydd diffyg adnoddau a chyllid, nid oherwydd diogelwch neu risg. 

Nodau'r astudiaeth hon yw gwerthuso effaith rhaglen ymarfer corff strwythuredig am wyth wythnos ar ansawdd bywyd, cryfder y cyhyrau, capasiti ffwythiannol, gallu goddef ymarfer corff, cyfansoddiad y corff, blinder a pherfformiad ymarfer corff ar unigolyn gyda lewcemia cell plasma.