.jpg)
Defnydd myfyrwyr chwaraeon y brifysgol o ddeallusrwydd artiffisial
Mae'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a'i ddatblygiad cyflym mewn addysg uwch wedi arwain at bolisïau o bwys ar frys, ar y defnydd o AI mewn dysgu, addysgu ac arferion asesu. Er y gall AI fod yn drawsnewidiol a chynnig sawl mantais yn y sector AU, mae defnydd anaddas ar gynnydd, ac mae'n codi pryderon ynghylch uniondeb academaidd lle gall myfyrwyr ei ddefnyddio i "osgoi gwneud ymdrech."
Bydd yr astudiaeth hon yn ceisio darparu mewnwelediad i'r berthynas rhwng y defnydd o AI a phrofiadau seicolegol myfyrwyr wrth iddynt nesáu at ddyddiadau cyflwyno asesiadau crynodol. Drwy archwilio newidiadau mewn straen academaidd, diflastod a phrofiadau'n ymwneud â straen, ochr yn ochr â blinder eithafol, hunan-barch a chymorth cydnabyddedig gan athro, bydd yr astudiaeth yn edrych ar y ffactorau seicogymdeithasol ehangach all ddylanwadau ar sut mae myfyrwyr gradd chwaraeon yn ymateb i ofynion academaidd ac yn ymgysylltu ag AI.