Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

Gall dod o hyd i gyllidwr addas a gwneud cais am gyllid fod yn broses frawychus. Mae’r Rheolwyr Datblygu yma ym Mhrifysgol Wrecsam yma i’ch cefnogi chi drwy’r broses honno. 

Archwiliwch y dolenni defnyddiol isod i ddechrau ar eich taith gyllid:

Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI)

Mae UKRI yn gorff cyhoeddus anadrannol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cyfarwyddo cyllid ymchwil ac arloesi, a ariennir drwy gyllideb wyddoniaeth yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg. Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2018, mae Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) yn gorff cyhoeddus anadrannol a noddir gan yr Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach (DBIST)

Mae UKRI yn cynnig cyllid a chefnogaeth ar draws pob disgyblaeth academaidd a maes diwydiannol, o’r gwyddorau meddygol a biolegol i astronomeg, ffiseg, cemeg a pheirianneg, gwyddorau cymdeithasol, economeg, gwyddorau amgylcheddol, a’r celfyddydau a’r dyniaethau. Archwiliwch y dolenni isod i ddod o hyd i gyfleoedd cyllid sy’n berthnasol i chi:

Canfyddwr Cyllid UKRI (pob Cyngor) 

AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)  

BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol)     

EPSRC (Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol) 

ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) 

MRC (Y Cyngor Ymchwil Feddygol) 

NERC (Y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol) 

STFC (Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg) 

Innovate UK

NIHR (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal)

Ymddiriedolaethau a Chronfeydd Elusennol y DU

Mae ystod o Ymddiriedolaethau a Chronfeydd Elusennol y DU hefyd yn cyllido prosiectau pwysig ledled y DU:

Y Gronfa Loteri Fawr

Y Cyngor Prydeinig 

British Heart Foundation 

Cancer Research UK 

Esmee Fairburn Foundation

Joseph Rowntree Trust 

Leukaemia Research 

Leverhulme Trust 

Nuffield Foundation 

The British Academy 

Y Llyfrgell Brydeinig 

Y Gymdeithas Frenhinol

Wellcome Trust

Yr Academi Beirianneg Frenhinol

Cyrff Proffesiynol a Chymdeithasau

Cofrestrwch gydag unrhyw gyrff proffesiynol neu reoleiddiol a chymdeithasau sy’n benodol i’ch maes arbenigedd chi, gan fod ganddynt gyfleoedd cyllid yn aml

Os allwch chi gofrestru â chymaint o gyllidwyr perthnasol â phosibl, bydd yn rhoi sylfaen dda i adnabod cyfleoedd â chyllid.

Gall Research Professional hefyd eich cynorthwyo i chwilio ac adnabod cyfleoedd cyllid sy’n berthnasol ac yn addas. 

Dewiswch Prifysgol Wrecsam o’r gwymplen a dylech fod wedi mewngofnodi’n awtomatig drwy fewngofnodi untro.

System Rheoli Grantiau Prifysgol Wrecsam

Rhaid i bob cynnig gael ei gyflwyno ar System Rheoli Grantiau Prifysgol Wrecsam cyn gynted ag y byddwch yn paru eich prosiect â chyllidwr posibl, i gael y cymeradwyaethau angenrheidiol ac i sicrhau cydymffurfiaeth sefydliadol a chyllidwr. 

Bydd y Rheolwyr Datblygu’n cefnogi cydweithwyr drwy’r proses hon, felly os byddwch yn adnabod rhywbeth, cysylltwch â ni’n uniongyrchol neu anfonwch e-bost i grants@wrexham.ac.uk.

emma.taylor@wrexham.ac.uk

rachel.lacey@wrexham.ac.uk