.jpg)
Llwybrau at Effaith Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma
Mae’r tîm Troseddeg, Plismona, a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam yn datblygu rhaglen gynyddol o ymchwil sy’n canolbwyntio ar ymarfer sy'n ystyriol o drawma. Drwy gydweithio â phartneriaid a sefydliadau allanol, mae’r gwaith hwn yn helpu i drosi ymchwil yn arweiniad ymarferol, hyfforddiant, a modelau cefnogi y gellir eu gwreiddio ar draws gwasanaethau a chymunedau.

Deall Beth Sydd Eisoes Yn Digwydd
Mae diddordeb y tîm yn y maes hwn yn deillio o ymchwil PhD Dr Tegan Brierley-Sollis sy'n archwilio trawma o fewn y system cyfiawnder ieuenctid. Er y cydnabyddir yn eang bod cysylltiadau effeithiol, boed hynny'n ymwneud â therapi, cyfeillgarwch, addysg, neu gyfiawnder ieuenctid yn dibynnu ar ymddiriedaeth a chydberthynas, pwysleisiodd ymchwil Tegan fod yr ymarfer o fod yn ystyriol o drawma yn mynd y tu hwnt i ryngweithiadau unigol. Yn hytrach, mae’n gofyn i sefydliadau wreiddio diwylliant o chwilfrydedd, myfyrdod, a dealltwriaeth drwyddi draw yn eu harferion.
Gall creu’r math hwn o newid diwylliannol fod yn heriol iawn mewn gwasanaethau a gynlluniwyd i weithio gyda phobl ifanc sy’n troseddu. Pwysleisiodd ymchwil Tegan bwysigrwydd “atebolrwydd tosturiol”: cydnabod y gall ymddygiad troseddol fod yn gysylltiedig â phrofiadau trawmatig a gall weithiau fod yn ffurf o gyfathrebu. Mae’r dull hwn yn annog ymarferwyr i ddeall ymddygiad o fewn ei gyd-destun ehangach wrth gynnal cefnogaeth ac atebolrwydd priodol ar yr un pryd.
O Wybodaeth i Weithredu
Fel rhan o’r gwaith hwn, datblygodd Tegan ‘Llywio trwy’r Storm’, sef adnodd eglurhaol byr, animeiddiedig sy’n defnyddio goleudy a chyfatebiaeth â’r môr i gyfleu trawma, gwydnwch, a’n gallu i brosesu profiadau anodd. Drwy gyflwyno syniadau cymhleth mewn fformat hygyrch, mae’r adnodd wedi helpu i ennyn sylw cynulleidfa ehangach ac mae wedi cyfrannu at ddatblygu partneriaeth gadarn a pharhaus gyda Hyb ACE Cymru, sef sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi Cymru i ddod yn fwy ymatebol i drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
.png)
Gan adeiladu ar y berthynas hon, mae aelodau o’r tîm ehangach wedi cydweithio gyda Hyb ACE Cymru ar adolygiad llenyddiaeth i edrych ar iaith a therminoleg allweddol sy’n ymwneud â thrawma. Arweiniodd y bartneriaeth hefyd at gyllid ar gyfer prosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thrawma dirprwyol o fewn plismona.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o Waith Cymdeithasol a Phlismona, datblygodd y tîm fodel goruchwylio rhwng cymheiriaid ar gyfer cefnogi swyddogion yr heddlu a staff sy’n dod ar draws sefyllfaoedd sydd â’r potensial o fod yn drawmatig fel rhan o’u dyletswyddau. Bwriad y model yw creu cyfleoedd strwythuredig ar gyfer myfyrio, cymorth, a llesiant o fewn y gweithle.
Yn ogystal â’r datblygiadau hyn, gweithiodd Tegan gyda Hyb ACE Cymru a chydweithwyr ar draws y Brifysgol i lunio canllaw ystyriol o drawma i ymchwilwyr. Mae’r canllaw hwn yn cefnogi ymchwilwyr sy’n gweithio gyda grwpiau a all fod yn agored i niwed, gan eu helpu i adnabod a rheoli’r effaith emosiynol y gall ymchwil sensitif ei chael ar eu llesiant eu hunain.
Ar y Llwybr at Effaith
Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol i astudiaeth goruchwylio cymheiriaid yr heddlu, sicrhaodd y tîm gyllid ychwanegol i dreialu’r model CYMORTH o fewn ClwydAlyn, cymdeithas dai sy’n gweithio ledled gogledd Cymru. Bydd cam nesaf yr ymchwil yn edrych ar sut y gall dulliau sy’n ystyriol o drawma gael eu haddasu a’u gwreiddio o fewn cyd-destunau sefydliadol gwahanol.

Gan edrych tua’r dyfodol, bwriad y tîm yw trosi’r model CYMORTH yn ganllawiau, a fydd yn galluogi sefydliadau ac ymchwilwyr eraill i fabwysiadu a rhoi’r dull ar waith yn eu lleoliadau eu hunain. Drwy ddarparu adnoddau ymarferol ac arweiniad yn seiliedig ar dystiolaeth, mae gan y model y potensial i gefnogi llesiant y gweithlu, cryfhau gwydnwch sefydliadol, a lleihau effaith trawma dirprwyol ac anuniongyrchol ar draws ystod o sectorau.
Pam Mae Hyn yn Bwysig
Er bod llawer o sefydliadau yn dyheu am fod yn ystyriol o drawma, mae dod yn ystyriol o drawma yn cael ei ddeall orau fel taith barhaus, yn hytrach na phen y daith. Mae’n cynnwys dysgu, myfyrio ac addasu parhaus ar lefelau unigol a sefydliadol.
Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ym Mhrifysgol Wrecsam yn cyfrannu at y daith hon drwy helpu sefydliadau i symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth a thuag at newid diwylliannol ystyrlon. Drwy ymchwil, gweithio mewn partneriaeth, a datblygu adnoddau ymarferol, mae’r tîm yn cefnogi gwasanaethau i ennill dealltwriaeth well o effaith trawma ar y bobl y maent yn eu gwasanaethu a’r staff sy’n eu cefnogi.
Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau polisi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi datblygiad gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma fel uchelgais allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, lle mae gwau ymarfer sy’n ystyriol o drawma drwy bob lefel o ddarpariaeth gwasanaeth yn nod canolog (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru, 2019).
Drwy drosi ymchwil yn gamau ymarferol, mae’r tîm yn helpu i feithrin sefydliadau iachach, mwy myfyriol, a mwy tosturiol, gan greu buddion parhaus i ymarferwyr, sefydliadau, a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.