BSc (Anrh) Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon
Manylion cwrs
Côd UCAS
12MG
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 YRS (FT)
Tariff UCAS
112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
1af yn y DU
ar gyfer Profiad Myfyrwyr*
10 uchaf yn y DU
ar gyfer Ansawdd Addysgu*
Cyd 1af yn y DU
ar gyfer Rhagolygon Graddedig*
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y radd Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon hon yn eich paratoi ar gyfer y maes adsefydlu chwaraeon ac anafiadau integredig ac amgylcheddau mwy penodol fel timau chwaraeon a hyrwyddo iechyd.
Byddwch yn canolbwyntio ar newidynnau ehangach ac effaith anafiadau chwaraeon a phwysigrwydd cael dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ymdrin â dulliau gofal/triniaeth. Mae cyfleoedd helaeth i gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith drwy ein partneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Clwb Rygbi Cynghrair Widnes Vikings a busnesau lleol gan gynnwys Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd a The Rehab Physio. Byddwch hefyd yn astudio yn ein labordy Ffisioleg, sydd wedi'i achredu gan BASES, a labordy biomecaneg newydd sbon o'r radd flaenaf.
Fel rhan o'ch rhaglen byddwch yn::
- Archwilio'r ffactorau ffisiolegol, seicolegol, diwylliannol a chymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd a lles unigolion.
- Ystyried pwysigrwydd cyfweld / cyfathrebu ysgogol.
- Datblygu sgiliau mewn rheoli llwyth gwaith a phroffesiynoldeb i wneud y gorau o ofal cleientiaid.
- Gallu ymarfer yn ddiogel, yn fedrus ac yn hyderus i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau manwl o ddod yn Adsefydlu Chwaraeon Graddedig (BASRaT).
- Yn hyblyg ac yn ymatebol i hinsawdd newidiol adsefydlu chwaraeon.
- Ystyried elfennau cyfannol ehangach iechyd a lles a sut maent yn effeithio ar adferiad ar ôl anaf.
- Dangos a chymhwyso dealltwriaeth ehangach/egwyddorion damcaniaethol sy'n effeithio ar adsefydlu chwaraeon.
*Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn safle
- 1af yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr
- 1af yng Nghymru a'r 10 uchaf yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu
- Cyd 1af yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedig
yn nhabl cynghrair maes pwnc Pynciau sy’n Gysylltiedig â Meddygaeth yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times, 2025.
Mae ein tîm academaidd yma i ysbrydoli a grymuso dysgwyr trwy ymrwymiad i ragoriaeth mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff. Ymdrechwn i greu amgylchedd deinamig sy'n meithrin ymchwil arloesol ac ymarfer cymhwysol, gan greu partneriaethau cryf gyda chymunedau lleol a byd-eang. Trwy integreiddio menter ac ymgynghoriaeth yn ein rhaglenni, ein nod yw gwella ansawdd addysg a hyrwyddo arferion cynaliadwy mewn chwaraeon, hyfforddi, iechyd a ffitrwydd. Gyda’n gilydd, byddwn yn meithrin diwylliant o chwilfrydedd a chydweithio, gan baratoi ein myfyrwyr i arwain a gwneud cyfraniadau dylanwadol i’r maes a thu hwnt.
Adsefydlu Anafiadau Chwaraeonyn Prifysgol Wrecsam
Diddordeb mewn Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr i ddysgu mwy am y radd hon.
Prif nodweddion y cwrs
- Wedi'i achredu gan Gymdeithas Adsefydlwyr Chwaraeon Prydain (BASRaT).
- Canfod y sgiliau sydd angen i fod yn ymarferydd o fewn meysydd iechyd a ffitrwydd ar y cwrs ysbrydoledig hwn.
- Mae’r cwrs yn pwysleisio profiad ymarferol. Mae’n defnyddio partneriaethau cyffrous hefo ffigyrau chwaraeon, sefydliadau iechyd a chyrff proffesiynol eraill.
- Astudiwch mewn labordy achrededig gan Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES).
- Byddwch yn datblygu meddylfryd clinigol tuag at ddulliau therapiwtig o drin anafiadau cyhyrysgerbydol, gan ystyried anafiadau a sut i’w hatal.
- Mae lleoliadau'n ymddangos ym mhob blwyddyn astudio, gydag o leiaf 50 awr (arsylwadol) mewn astudiaeth lefel 4, 110 awr mewn astudio lefel 5 a 240 awr mewn astudiaeth lefel 6.
- Bydd ein partneriaeth â Widnes Vikings o rygbi'r gynghrair yn rhoi cyfle i chi gael mynediad at brofiadau dysgu yn y byd go iawn mewn amgylchedd chwaraeon elitaidd ac elwa o gyfoeth o wybodaeth broffesiynol.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
MODIWLAU
- Asesu Anafiadau ac MSK
- Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg
- Datblygu Sgiliau Personol, Proffesiynol ac Academaidd
- Tylino Chwaraeon
- Anafiadau a Chyflyrau Niwromusculogerbydol Cyffredin
- Ymarfer a Chyfathfebu Proffesiynol
Mae gan Lefel 4 isafswm o 50 awr o ymarfer (arsylwadol)
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
MODIWLAU
- Moddolrwydd Trin Anafiadau
- Adsefydlu Swyddogaethol 1
- Seicoleg: Gwella Perfformiad
- Ffisioleg Ymarfer Corf Cymhwysol
- Adsefydlu Swyddogaethol 2
- Darganfyddiad Academaidd – Creu Syniadau Ymchwil Cryf
Mae gan Lefel 5 isafswm o 110 awr o ymarfer/lleoliad.
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
MODIWLAU
- Adsefydlu a Rheoli Uwch
- Ymarfer Clinigol Integredig Mewn Chwaraeon
- Rhesymu Clinigol
- Chwaraeon ac Ymarfer Clingol Integredig
- Darganfyddiad Annibynnol
Mae gan Lefel 6 isafswm o 240 awr o ymarfer/lleoliad.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar Safon Uwch neu gyfatebol Rhaid bod gennych 5 TGAU gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth ar radd C / 4 neu'n uwch.
Yn ychwanegol at y gofynion mynediad academaidd, rhaid i bob ymgeisydd nad Saesneg neu Gymraeg ei iaith gyntaf ddangos hyfedredd iaith Saesneg (mae angen tystiolaeth o feistrolaeth dda ar Saesneg ysgrifenedig a llafar i IELTS 6.0).
Cafwyd tystiolaeth o astudiaeth academaidd berthnasol ddiweddar os uchod fwy na 5 mlynedd cyn i'r ymgeisydd gychwyn. Arddangos mewnwelediad i rôl Adsefydlu Chwaraeon mewn amrywiaeth o leoliadau.
Clirio Iechyd Galwedigaethol
Bydd pob ymgeisydd sydd yn llwyddiannus o ran cael cynnig lle ar y rhaglen yn destun cliriad llwyddiannus gan iechyd galwedigaethol oherwydd natur glinigol y gwaith a lleoliadau potensial mewn lleoliad gofal iechyd GIG/arall. Mae hyn hefyd yn cynnwys gofyniad am imiwneiddio perthnasol cyn sicrhau lle. Bydd darparwr iechyd galwedigaethol yn darparu hyn drwy gytundeb lefel gwasanaetha rhwng y brifysgol a’r darparwr.
Fe all fod yn fuddiol ac rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dal trwydded yrru lawn y DU a bod ganddynt gar i’w ddefnyddio am y bydd hyn yn eu galluogi i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd lleoliadau ymarfer tros gyfnod y cwrs.
Cyn ichi dderbyn cynnig o le diamod ar y radd hon bydd gofyn ichi gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a elwid gynt yn CRB), fel bod modd gwirio eich addasrwydd i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.
Addysgu ac Asesu
Mae'r dulliau asesu yn cwmpasu'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer myfyriwr graddedig Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon. Maent yn cynnwys:
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arholiad ymarferol
- Cyflwyniadau
- Myfyrdod beirniadol
- Adroddiadau labordy
- OSCE (archwiliad clinigol strwythuredig a arsylwyd)
- Lleoliadau clinigo
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall graddedigion fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y meysydd canlynol:
- Clybiau chwaraeon proffesiynol
- Hunangyflogaeth yn y sector preifat
- Partneriaeth mewn clinig neu bractis sy'n cynnig gwasanaethau ffisiotherapi, adsefydlu chwaraeon / therapi chwaraeon
- Gweithio fel ymarferydd gofal iechyd neu les
- Ymarfer rolau adsefydlu yn y Lluoedd Arfog
- Dysgu
- Astudio PhD neu radd meistr
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.