BSc (Anrh) Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Sports injury rehab class

Manylion cwrs

Côd UCAS

SIFY

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Wedi'i hachredu

gan Gymdeithas Adsefydlwyr Chwaraeon Prydain (BASRaT)

Ymarferol

profiad mewn ystod o sgiliau damcaniaethol ac ymarferol

Datblygu

cyflwyniad i asesu ac adsefydlu anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Rheoli Anafiadau Chwaraeon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer maes adsefydlu anafiadau chwaraeon integredig a meysydd mwy penodol i hybu iechyd. Hefyd yn canolbwyntio ar agweddau ehangach ac effaith anafiadau chwaraeon yng nghyd-destun ffactorau biolegol, seicocymdeithasol, diwylliannol a chymdeithasol sydd yn effeithio ar iechyd a lles unigolion.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Ennill dealltwriaeth ragarweiniol i'r diwydiant adsefydlu chwaraeon ac anafiadau
  • Ennill profiad ymarferol mewn asesu ac adsefydlu ar sail ymarfer corff.
  • Datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o’r diwydiant chwaraeon ac adsefydlu anafiadau
  • Archwiliwch y ffactorau ffisiolegol, seicolegol, diwylliannol a chymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd a lles unigolion
  • Ystyriwch bwysigrwydd cyfweld / cyfathrebu ysgogol
  • Cael profiad ymarferol mewn asesu ac adsefydlu seiliedig ar ymarferion
  • Datblygu’r sylfaeni mewn gwyddor chwaraeon, biomecaneg ac anatomeg
  • Gallu ymarfer yn ddiogel, cymwys a hyderus er mwyn sicrhau eu bod yn ateb safonau manwl o fod yn Adsefydlwr Chwaraeon Graddedig (BASRaT).
  • Bod yn hyblyg ac yn ymatebol i hinsawdd newidiol adsefydlu chwaraeon.
  • Ystyried agweddau cyfannol iechyd a lles a sut maen nhw yn effeithio adferiad ar ôl anaf.

 

BASRaT logoWorld Federation of Athletic Training and TherapyBASES Logo
Sports injury rehab students

Adsefydlu Anafiadau Chwaraeonyn PGW

Diddordeb mewn Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr i ddysgu mwy am y radd hon.

Prif nodweddion y cwrs

  • Darganfyddwch y sgiliau rhagarweiniol sy'n ofynnol gan ymarferydd sy'n gweithio ym meysydd iechyd a ffitrwydd ar y flwyddyn sylfaen ysbrydoledig hon.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau asesu a rheoli anafiadau cyhyrysgerbydol.
  • Bydd myfyrwyr yn cael y gefnogaeth academaidd er mwyn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn ein Gradd Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon BSc.
  • Astudiwch mewn labordy achrededig gan Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES).
  • Wedi'i achredu gan Gymdeithas Adsefydlwyr Chwaraeon Prydain (BASRaT).
  • Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais ar ennill profiad ymarferol. Mae'n tynnu ar bartneriaethau presennol a chyffrous gyda phersonél chwaraeon proffesiynol, sefydliadau partner iechyd a chyrff proffesiynol priodol.
  • Byddwch yn datblygu dull clinigol o ddefnyddio dulliau therapiwtig i drin anafiadau cyhyrysgerbydol. Mae'r cwrs yn ystyried anaf ac adsefydlu, o atal anafiadau i adsefydlu.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (SYFLAEN) 

MODIWLAU

  • Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
  • Astudiaethau Cyd-destunol
  • Cyflwyniad i Wyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Pherfformiad Dynol
  • Biomecaneg a Gwyddor Chwaraeon
  • Seiliau Anatomeg a Chinesioleg
  • Seiliau Rheoli Anafiadau a Phresgripsiwn Ymarfer Corff

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Asesu Anafiadau ac MSK
  • Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg 
  • Datblygu Sgiliau Personol, Proffesiynol ac Academaidd 
  • Tylino Chwaraeon
  • Anafiadau a Chyflyrau Niwromusculogerbydol Cyffredin
  • Ymarfer a Chyfathfebu Proffesiynol

Mae gan Lefel 4 isafswm o 50 awr o ymarfer (arsylwadol) 

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5) 

MODIWLAU

  • Adsefydlu Swyddogaethol 1
  • Moddolrwydd Trin Anafiadau
  • Adsefydlu Swyddogaethol 2
  • Seicoleg: Gwella Perfformiad 
  • Ffisioleg Ymarfer Corf Cymhwysol 
  • Darganfyddiad Academaidd – Creu Syniadau Ymchwil Cryf

 Mae gan Lefel 5 isafswm o 110 awr o ymarfer/lleoliad.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

 MODIWLAU

  • Adsefydlu a Rheoli Uwch
  • Ymarfer Clinigol Integredig Mewn Chwaraeon
  • Rhesymu Clinigol
  • Chwaraeon ac Ymarfer Clingol Integredig
  • Darganfyddiad Annibynnol

Mae gan Lefel 6 isafswm o 240 awr o ymarfer/lleoliad.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

I gael eich derbyn ar ein rhaglen blwyddyn sylfaen, rydym yn gofyn am y canlynol:  

• O leiaf 48-72 pwynt UCAS ar Safon Uwch neu gyfatebol

• Mae cefndir gwyddoniaeth, mathemateg a chwaraeon o fantais, ond nid yn hanfodol. Os yw myfyrwyr wedi gadael addysg am fwy na 5 mlynedd neu os nad oes ganddynt gefndir gwyddoniaeth, mathemateg neu chwaraeon bydd raid iddynt gyflwyno datganiad personol i dîm y rhaglen hyd yn oed os oes ganddynt y pwyntiau UCAS gofynnol.  

Gall ymgeiswyr ymuno â'r rhaglen ar lefelau amrywiol gyda Chydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) neu Gydnabod Dysgu Profiadol Blaenorol (RPEL) yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y Brifysgol.

Clirio Iechyd Galwedigaethol

Bydd pob ymgeisydd sydd yn llwyddiannus o ran cael cynnig lle ar y rhaglen yn destun cliriad llwyddiannus gan iechyd galwedigaethol oherwydd natur glinigol y gwaith a lleoliadau potensial mewn lleoliad gofal iechyd GIG/arall. Mae hyn hefyd yn cynnwys gofyniad am imiwneiddio perthnasol cyn sicrhau lle. Bydd darparwr iechyd galwedigaethol yn darparu hyn drwy gytundeb lefel gwasanaetha rhwng y brifysgol a’r darparwr.

Fe all fod yn fuddiol ac rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dal trwydded yrru lawn y DU a bod ganddynt gar i’w ddefnyddio am y bydd hyn yn eu galluogi i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd lleoliadau ymarfer tros gyfnod y cwrs. 

Cyn ichi dderbyn cynnig o le diamod ar y radd hon bydd gofyn ichi gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (a elwid gynt yn CRB), fel bod modd gwirio eich addasrwydd i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.   

Addysgu ac Asesu

Mae'r dulliau asesu yn cwmpasu'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer myfyriwr graddedig Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon. Maent yn cynnwys: 

  • Aseiniadau ysgrifenedig 
  • Arholiad ymarferol
  • Cyflwyniadau
  • Myfyrdod beirniadol
  • Adroddiadau labordy
  • OSCE (archwiliad clinigol strwythuredig a arsylwyd)
  • Lleoliadau clinigo

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall graddedigion fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y meysydd canlynol:

  • Clybiau chwaraeon proffesiynol
  • Hunangyflogaeth yn y sector preifat
  • Partneriaeth mewn clinig neu bractis sy'n cynnig gwasanaethau ffisiotherapi, adsefydlu chwaraeon / therapi chwaraeon
  • Gweithio fel ymarferydd gofal iechyd neu les
  • Ymarfer rolau adsefydlu yn y Lluoedd Arfog
  • Dysgu
  • Astudio PhD neu radd meistr

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Mae ffioedd dysgu 2023/24 Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.