BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngol (gyda blwyddyn sylfaen)
Manylion cwrs
Côd UCAS
MPFY
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
48-72
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Mynediad 24/7
i stiwdio cynhyrchu
Cyfleoedd
i wneud profiad gwaith yn y diwydiant
Safle gwych
yn y Ganolfan Diwyddiannau Creadigol, cartref BBC Cymru
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd ein gradd Cynhyrchu Cyfryngau, a ddyluniwyd mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant, yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn amgylchedd cynhyrchu go iawn.
Byddwch yn:
- Cymryd rhan yng ngweithrediadau dydd i ddydd cyfleuster cynhyrchu proffesiynol, gan ennill sgiliau sy'n mynd y tu hwnt i'r ddarlithfa.
- Defnyddio ein stiwdios cyfryngau a theledu uwch i greu cynnwys ar gyfer gwahanol farchnadoedd a llwyfannau. Mae ein stiwdio Deledu yn cynnwys camerâu 4k a manylder uwch, offer golygu modern, a stiwdio ôl-gynhyrchu gyda galluoedd ffrydio byw.
- Datblygu ystod eang o sgiliau a meistroli technolegau a thechnegau niferus yn y cyfryngau i wella'ch portffolio a'ch paratoi ar gyfer rolau amrywiol yn y cyfryngau.
- Cydweithio â busnesau a phartneriaid lleol fel GIG Cymru, Cynghrair Rygbi Cymru, Clwyd Theatr Cymru a Focus Wales, gŵyl flaenllaw sy’n gweld artistiaid o bob rhan o’r byd yn cael eu recordio.
Prif nodweddion y cwrs
- Wedi’ch lleoli yn ein Canolfan ar gyfer Adeilad y Diwydiannau Creadigol, byddwch yn gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau creadigol gan ddefnyddio’r diweddaraf mewn technoleg cynhyrchu teledu.
- Mae ein cyfleusterau TG yn rhan greiddiol o gyflwyno’r cwrs, o feddalwedd golygu fel Avid, DaVinci Resolve, Final Cut, a Premiere, i becynnau cywiro lliw, cyfansoddi, a 3D, sy’n eich galluogi i ehangu eich sgiliau a’ch galluoedd.
- Byddwch yn dod yn rhan o’n cymuned myfyrwyr, gan arwain y sesiynau sianel YouTube Cynhyrchu Cyfryngau, sy’n cynnwys cymysgedd o sesiynau byw gydag unigolion proffil uchel yn ogystal â bandiau a pherfformwyr lleol.
- Byddwch yn ennill gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ar draws pob cam cynhyrchu, o gynllunio i olygu.
- Nod ein gradd yw rhoi hwb i'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cyflogadwyedd, waeth beth fo'r llwybr cyfryngau penodol yr hoffech ei ddilyn.
- Mae Prifysgol Wrecsam yn bartneriaid balch i Blackmagic Design. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr y cwrs hwn elwa o'r feddalwedd, yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn raddedigion hyderus, profiadol sy'n barod i'r diwydiant.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae pob blwyddyn o'r rhaglen wedi'i chynllunio i gyflwyno cysyniadau, sgiliau a damcaniaethau newydd a bydd dilyniant i'r lefel nesaf yn ysgogi ac yn datblygu sgiliau craidd mewn ffordd gronnol.
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
MODIWLAU
- Hanfodion Stiwdio
- Cyfathrebu Cyfryngau
- Diwylliant Cyfryngau
- Prosiect Personol
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
MODIWLAU
• Cyflwyniad i Sgiliau Sain
• Cyflwyniad i Sgiliau Sgrin
• Sgiliau Astudio
• Dyfodol Creadigol 1 (Portffolio Cyflogadwyedd)
• Dylunio Asedau Cyfryngau Stoc
• Cynhyrchu Cyfryngau
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
MODIWLAU
• Safonau Cynhyrchu Stiwdio
• Sgriptio ac Adrodd Straeon
• Effeithiau Gweledol
• Sain ar gyfer Cyfryngau Sgrin
• Dyfodol Creadigol
• Dulliau Ymchwil
• Adrodd Stori Ddigidol
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
MODIWLAU
• Traethawd Hir
• Prosiect
• Ôl-gynhyrchu
• Cydweithio â Chleientiaid
• Dyfodol Creadigol
• Technegau Cyfryngau Sy'n Dod i'r Amlwg
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r gofynion academaidd ar gyfer y radd ar gyfer o leiaf 48-72 o bwyntiau tariff UCAS ar Lefel A TAG neu gyfwerth. Bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol UG a Lefel 3 priodol hefyd yn cael eu hystyried.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs hwn gan gynnwys creu cynyrchiadau cerdd, traethodau, dysgu yn y gwaith, portffolios, adroddiadau a chyflwyniadau.
Yn ogystal â darlithoedd a gweithdai, anogir myfyrwyr ar y cwrs hwn i archwilio'r cyfleuster hanfodol hwn ar gyfer eu prosiectau eu hunain i wella a chefnogi dysgu a datblygu.
Mae'r holl asesiadau yn seiliedig ar brosiectau
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r hyfforddiant a’r arbenigedd i weithio yn un o feysydd cyffrous niferus y diwydiannau darlledu cyfryngol. Byddwch yn datblygu amryw o sgiliau a fydd yn hybu eich cyflogadwyedd, gan gynnwys sgiliau mewn:
- Ymchwil – mae gennym fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i addysg AB ac AU, gan gymryd graddau ymchwil hefyd.
- Cyfathrebu – mae myfyrwyr wedi canlyn gyrfaoedd mewn gorsafoedd radio, orielau a gosod sain.
- Defnyddio technoleg – mae’r cwrs yma yn rhoi ystod eang o gyfleoedd technolegol gyda sgiliau y gellir eu defnyddio mewn ystod o feysydd creadigol.
- Y gallu i gydweithredu – rydym wedi lleoli myfyrwyr mewn gwyliau o bwys yn Ewrop
- Dylunio a rheoli prosiectau
Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Darlledu – Mae gennym ystod o ddarlledwyr llwyddiannus sy’n gweithio i gwmnïau cenedlaethol mewn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
- Cynhyrchu Fideos – Sefydlu eu fideos eu hunain neu weithio i gynhyrchwyr annibynnol ar amryw o brosiectau i ystod eang o gleientiaid.
- Ôl-gynhyrchu – Datblygir sgiliau cyfansoddi a golygu fideos trwy gydol y cwrs, gan gynnig troedleoedd cadarn ar gyfer swyddi VFX ac ôl-gynhyrchu eraill.
- Ffotograffiaeth – Mae dal delweddau, llonydd ac ar fideo, wrth graidd y cwricwlwm, ac mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynhyrchu ystod o waith ffotograffig.
- Cynhyrchu a Rheolaeth Stiwdio – Mae yna lawer o gyfleoedd i raddedigion ddefnyddio eu sgiliau ar gyfer rheoli prosiectau a chomisiynau eraill gan gleientiaid.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.