Myfyrwyr Perthynol i Iechyd i gefnogi cleifion a staff y GIG trwy fodiwlau Cymraeg seiliedig ar waith

Date: Dydd Lau, Awst 8, 2024

Bydd myfyrwyr ar gyrsiau gradd Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam yn ymgymryd â modiwlau dysgu newydd seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn iddynt allu cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf tra ar leoliad.

Cafodd y modiwlau newydd eu lansio’n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd y modiwlau hyn yn galluogi'r rhai sy'n astudio Maeth a Dieteteg; Therapi Galwedigaethol; Ymarfer Adran Llawdriniaeth; Gwyddor Barafeddygol; Ffisiotherapi; a chyrsiau gradd Therapi Iaith a Lleferydd i allu cyfathrebu a chefnogi cleifion a chydweithwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, tra ar leoliad.

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwlau yn cael eu cefnogi gan Addysgwyr Ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y modiwlau yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Hydref eleni.

Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygiad Academaidd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn hynod falch o fod wedi lansio ein modiwlau dysgu seiliedig ar waith Perthynol i Iechyd cyfrwng Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon – roedd yn ffordd addas iawn i gyhoeddi’r datblygiad hwn.

“Fel sefydliad, rydym wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr ac yn ymateb i anghenion ein bwrdd iechyd lleol. Mae ychwanegu’r modiwlau dysgu seiliedig ar waith cyfrwng Cymraeg nid yn unig o fudd i ddatblygiad ein myfyrwyr ond hefyd i gleifion yng Ngogledd Cymru, y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.

“Yr adborth gan gleifion yw bod gallu cyfathrebu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu hiaith gyntaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w profiad cyffredinol.”

Dywedodd Nesta McCluskey, Cyfarwyddwr Clinigol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r Brifysgol i ddarparu modiwlau dysgu seiliedig ar waith yn y Gymraeg i fyfyrwyr gradd Perthynol i Iechyd, sef darpar weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru.

“Fel bwrdd iechyd, mae gennym weledigaeth glir y dylai pawb sy’n dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gael eu trin â pharch ac urddas, a chael gwasanaeth diogel ac ymatebol sy’n hygyrch yn eu dewis iaith, a dyna pam rydym yn falch i fod yn gweithio ochr yn ochr â’r Brifysgol i ddarparu’r modiwlau hyn i fyfyrwyr Perthynol i Iechyd.”