Logo for North Wales Children's University with smiley face

Datgan Diddordeb ar gyfer Peilot Gogledd Cymru

Mae’r wybodaeth isod yn ymwneud â’r Peilot a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru yn 2023 – 2024.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, trwy ein cenhadaeth ddinesig, ynghyd ag ystod eang o bartneriaid, wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau dros £800,000 o fuddsoddiad gan HEFCW i gyflwyno Prifysgol y Plant ar draws Gogledd Cymru yn ystod 2023 i Chwefror 2024. 

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen ac yn deall nodau a gofynion y Peilot cyn llenwi’r arolwg hwn. 

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn dadansoddi’r holl geisiadau ac yn cysylltu’n ôl â phawb. 

Teacher at top of table with kids sat down looking at her

Ein targed yw i weithio gyda 43 o ysgolion ar hyd a lled Gogledd Cymru (mae’n rhaid i 9 ohonynt fod yn ysgolion uwchradd) a 1000 o bobl ifanc. Mae’n rhaid i 500 ohonynt fynychu seremoni Raddio ar ôl cwblhau 30 awr o weithgarwch allgyrsiol.

Fe fyddwn ni angen eich cymorth i nodi, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc yn eich lleoliad a fydd yn elwa o’r Brifysgol Plant.

Rydym yn rhagweld y bydd y broses gais yn boblogaidd iawn gydag ysgolion yn y rhanbarth felly dim ond os ydych yn sicr eich bod yn gallu cyflawni’r CYTUNDEB LEFEL GWASANAETH y dylech ymgeisio os gwelwch yn dda.

I wneud cais am un o'r lleoedd am ddim, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb erbyn y dyddiad cau - 9 Mehefin 2023.

Sylwch nad yw llenwi'r ffurflen yn gwarantu lle i'ch ysgol yn y cynllun.

Rydym wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych cyn cwblhau’r ffurflen, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at childrens.university@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch Natalie Edwards ar 01978 293134.

Byddwn yn adolygu’r holl geisiadau a dderbynnir, ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y nifer o amrywiadau gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) leoliad o fewn y sir, gweithgareddau sydd ar gael yn y lleoliad a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.  

Os ydych yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer ymuno â’r Peilot, bydd gofyn i chi gwblhau’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

Os nad ydych yn llwyddiannus, fe fyddwn yn egluro pa ddewisiadau eraill sydd ar gael ar gyfer eich lleoliad.