Mae gan y tîm cadarn o fewn Troseddeg, y Gyfraith a Phlismona lu o brofiad yn gweithio gydag arbenigwyr profiadol a phoblogaethau bregus, yn enwedig pobl sy’n gadael y carchar. Mae eu gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol perthnasol, yn aml yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lywio polisi, ac yn aml, mae eu gwaith yn cynnwys lleisiau sydd wedi’u lleiafrifo neu eu heithrio. 

Yn ddiweddar, aeth aelodau o’r tîm ati i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu a lansio animeiddiad newydd sbon a oedd yn egluro trawma - mae’r fideo yn adnodd gwych er mwyn helpu gwasanaethau neu fusnesau i ddod yn fwy ystyriol o drawma, a Phrifysgol Wrecsam yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei gwerthuso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r gwaith hwn yn cysylltu’n agos â’n Cenhadaeth Ddinesig o ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o drawma.

Ymgymerwyd â’r ymchwil o fewn yr adran hon gydag ethos cynhwysiant cymdeithasol, sy’n cyd-fynd â'r Ganolfan Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol: Cyfiawnder newydd, a lansiwyd ym mis Ionawr 2023. Cymerwch gip ar dudalennau gwe Cyfiawnder i weld yr ymchwil diweddaraf ar bolisi tai Cymru ac atal digartrefedd ymysg unigolion sy’n gadael y carchar.

Content Accordions

 

Cwrdd â'r Tîm