
Celfyddyd Ymchwil
Archwiliwch eich ymchwil drwy greadigrwydd, cydweithrediad a chadwraeth!
Gweithdy rhyngweithiol a gynhelir bob dwy flynedd yw Celfyddyd Ymchwil, sydd wedi’i ddylunio ar gyfer staff ymchwil gweithredol a myfyrwyr doethurol ar draws disgyblaethau. Mae’r sesiwn yn annog cyfranogwyr i feddwl am eu hymchwil mewn ffordd wahanol drwy ymarfer creadigol, trafodaeth a chydweithrediad ag artistiaid sy’n astudio ar y cwrs MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf ym Mhrifysgol Wrecsam.
Yn aml, gall ymchwil ganolbwyntio i raddau helaeth ar fethodoleg, data a manylder. Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cyfle i gamu’n ôl, ail-gysylltu â darlun mawr eich gwaith, ac archwilio ffyrdd newydd o gyfathrebu a chyd-destunoli eich syniadau a chael llawer o hwyl ar yr un pryd (mae llanast yn cael ei annog)!

Gan weithio ochr yn ochr ag artistiaid a chyd-ymchwilwyr, caiff cyfranogwyr eu tywys drwy gyfres o ymarferion creadigol sydd wedi’u dylunio i:
- fyfyrio ar eu taith ymchwil
- egluro syniadau cymhleth
- cyfathrebu ymchwil i gynulleidfaoedd anarbenigol
- adnabod themâu, cymhelliannau a chysylltiadau
- datblygu hyder wrth drafod eu gwaith
- archwilio ymchwil o safbwyntiau newydd
Mae’r gweithdy’n cyfuno trafod, myfyrio, meddwl gweledol a chreu celfyddyd ar y cyd mewn amgylchedd cefnogol ac anffurfiol. Nid oes angen unrhyw brofiad artistig (na, wir, gallech chi fod yr artist gwaethaf yn y byd).

Mae’r gweithdy Celfyddyd Ymchwil ar agor bob dwy flynedd i ymchwilwyr doethurol, ymchwilwyr gyrfa gynnar, staff academaidd sy’n weithredol o ran ymchwil a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil ac ysgolheictod.
Rhennir mwy o fanylion, dyddiadau, a gwybodaeth ynghylch archebu ar gyfer y sesiwn nesaf drwy’r Swyddfa Ymchwil a chyfathrebiadau datblygu staff.
Art of Research Video Transcript 2026 / Fideo Trawsgrifiad
Ymchwiliwch i ddigwyddiadau’r gorffennol: