(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Les
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
9 Wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i amrywiaeth o bynciau a all helpu i hyrwyddo lles i unigolion a grwpiau. Dylai hyn helpu i ddeall faint o bobl, a meysydd, sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i iechyd pobl.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r hyn y mae llesiant yn ei olygu, gwybodaeth am rywfaint o'r dystiolaeth y tu ôl i weithgareddau hybu iechyd, yn ogystal â syniadau i'w rhoi ar waith.
Dros yr wythnosau byddwch yn datblygu cyfnodolyn myfyriol, gan eich helpu i atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu.
Mae'r cwrs hwn yn wych i unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gydag eraill mewn rôl gynorthwyol, neu i unrhyw un sy'n dymuno arallgyfeirio eu harfer.
Prif nodweddion y cwrs
- Cysylltiadau da gyda'r diwydiant
- Canolbwyntio ar lesiant (unigryw)
- Atal salwch
- Iechyd meddwl
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y pynciau ar y modiwl hwn yn cynnwys
- Deall penderfynyddion ehangach iechyd a lles
- Deall penderfynyddion ehangach iechyd meddwl
- Lleoliadau, lleoedd a lles
- Lles a gweithgarwch corfforol
- Lles a newid yn yr hinsawdd
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes angen astudiaeth flaenorol.
Addysgu ac Asesu
- Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar y campws, gan ganiatáu llawer o fyfyrio gyda'r grŵp a'r staff.
- Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs yn cael ei gwblhau o fewn y sesiynau. Mae yna ychydig o dasgau byr difyr i'w cwblhau, a bydd llawer o gefnogaeth ar gael.
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim - Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol
Dyddiadau’r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Gwener Mai 9 2025 - Archebwch nawr
Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg bob dydd gwener rhwng 15:00yp - 17:00yp - Campws Wrecsam