Students at computer

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Tîm

o arbenigwyr gweithredol sy'n arwain ymchwil mewn sawl maes Seiberddiogelwch, sy'n golygu eich bod yn elwa o'r wybodaeth ddiweddaraf.

Archwiliwch

sawl maes seiberddiogelwch, o hacio moesegol a rheoli diogelwch i reoliadau diogelu data allweddol.

Astudiaeth

amrywiol rhwng darlithoedd a phrofiad ymarferol ar lefel diwydiant. Bydd eich ymchwil yn cael ei gwella gan y cyfle i fod yn rhan o'n cymuned ffyniannus a chydweithredol.

Pam dewis y cwrs hwn?

Byddwch yn astudio seiberddiogelwch o safbwyntiau ac agweddau technegol diogelwch rhwydwaith, profi treiddio a fforenseg cyfrifiadurol, gan hefyd mabwysiadau ddull systematig o reolaethau diogelwch gwybodaeth.

  • Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sawl ddisgyblaeth dechnegol arbenigol, yn enwedig o ran datblygu meddalwedd diogel ac atal prosesau ymosod cymhleth a ddefnyddir i gael mynediad diawdurdod i systemau ac amharu ar nodweddion.
  • Mae’r rhaglen hefyd yn integreiddio sgiliau proffesiynol sydd yn berthnasol i archwilio a rheolaeth neu’r risg sefydliadol yng nghyd-destun rheoliadau seiberddiogelwch a gwarchod data. 
  • Mae’r rhaglen yn trafod pynciau sy’n cynnwys cryptograffeg, hacio egwyddorol a phrofi treiddio, rheolaeth diogelwch wybodaeth, rheolaeth risg gwybodaeth, diogelwch meddalwedd, gweithredu systemau cadarn, methodolegau sicrwydd gwybodaeth a phrofi rheolaeth diogelwch gweithredol, rheoli digwyddiadau, archwilio, sicrwydd ac arolygu, a rheolaeth dilyniant busnes.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi astudio seiberddiogelwch yn fanwl.
  • Caiff darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol eu gwella gyda deunyddiau ar-lein ychwanegol sy'n gyfoethog o ran adnoddau i gefnogi eich dysgu annibynnol.
  • Byddwch yn archwilio methodolegau sicrwydd gwybodaeth, profi rheoli diogelwch gweithredol, rheoli digwyddiadau, archwilio, sicrwydd ac adolygu, rheoli parhad busnes, a mwy.
  • Mae ein staff yn gwneud gwaith ymchwil blaenllaw i sawl maes seiberddiogelwch, a bydd yn rhoi'r mewnwelediadau diweddaraf i chi wrth i chi ddatblygu eich arbenigedd eich hun.
  • Bydd y gweithgareddau ymchwil yr ydych yn ymgymryd â hwy yn gysylltiedig â chanolfan ymchwil ffyniannus ac, yn aml yn gydweithredol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae myfyrwyr yn astudio 6 modiwl craidd werth 20 credyd yr un, ac wedyn traethawd hir, gan wneud cyfanswm o 180 credid.

MODIWLAU

  • Astudiaeth Ôl-raddedig a Dulliau Ymchwil
  • Hacio Egwyddorol Uwch
  • Rheoli Diogelwch a Risg
  • Datblygu Meddalwedd Cadarn
  • Cryptograffeg Cymhwysol
  • Sganio Gorwelion Technegol
  • Traethawd Hir

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a chanddi elfen gyfrifidura/peirianneg gryf. Mewn rhai achosion, gall ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol gael eu derbyn, yn amodol ar gyfweliad a geirda.

 

Addysgu ac Asesu

Dulliau Ymchwil ac Astudio Ôl-raddedig

  • Gwaith Cwrs - 40% - 1500 air
  • Gwaith Cwrs - 60% - 2000 air

Hacio Egwyddorol Uwch

  • Gwaith Cwrs - 60% - 3000 o eiriau
  • Ymarferol – 40%

Diogelwch a Rheoli Risg

  • Astudiaeth Achos - 70% - 4000 o eiriau
  • Prawf Dosbarth - 30%

Datblygu Meddalwedd Cadarn

  • Portffolio - 70% - 4000 o eiriau
  • Prawf Dosbarth - 30%

Cryptograffeg Gymhwysol

  • Arholiad - 50%
  • Ymarferol - 50% - 3000 o eiriau

Sganio Gorwelion Technegol

  • Gwaith Cwrs - 70% - 3000 o eiriau
  • Cyflwyniad - 30%

Traethawd Hir

  • Cynnig Ymchwil - 10% - 2,000 o eiriau
  • Traethawd Hir - 90% - 15,000 - 20,000 o eiriau

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i ganolbwyntio ar yrfa ym maes Seiberddiogelwch neu mewn addysg. Bydd gennych y wybodaeth a’r cymhwysedd angenrheidiol i barhau i ddatblygu’n broffesiynol yn y gweithle.

Efallai y byddwch yn symud ymlaen i astudiaethau academaidd uwch.

Disgwylir y byddwch yn gallu ennill cyflogaeth ar lefelau technegol a rheolaethol uwch, a datblygu sgiliau arbenigol, technegol ac ymgynghorol. Rydym hefyd yn disgwyl y byddwch yn gallu ddechrau ar astudiaeth lefel Doethuriaeth

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:

  • Dadansoddwr Diogelwch
  • Peiriannydd Diogelwch
  • Pensaer Diogelwch
  • Gweinyddwr Diogelwch
  • Datblygydd Meddalwedd Diogewlch
  • Cryptograffydd
  • Cêl-ddadansoddwr 
  • Ymgynghorydd Diogelwch

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

 

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.