Astudiaethau Annibynnol Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Sefydlwyd IST (Astudiaethau Annibynnol Gwyddoniaeth a Thechnoleg) ym 1989 mewn cydweithrediad â grŵp o athrawon Prifysgol. IST oedd y cam nesaf a arweiniodd at raglenni Gradd Lefel Prifysgol. Sylfaenwyr IST sefydlodd SBIE ym 1967, yr ysgol gyntaf ar gyfer y Proffesiynau Iechyd, a arweiniodd at ddyfarniad Diploma Ôl-uwchradd Lefel 5.
Heddiw, mae gan IST strwythur academaidd a threfn gystadleuol i Brifysgolion blaenllaw tramor, ac mae'n gweithredu mewn adeilad o'r radd flaenaf sy'n bodloni safonau Ewropeaidd yn Athens. Mae'r sefydliad yn cynnal cysylltiadau agos, a threfniadau cydweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill er mwyn darparu addysg o ansawdd uchel i fyfyrwyr a chyfoethogi eu sgiliau cyflogadwyedd.
Gellir astudio'r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol yn IST:
- BA (Anrh) Busnes llawn amser
- BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau llawn amser
- BSc (Anrh) Cyfrifiadureg llawn amser
- BSc (Anrh) Seicoleg llawn amser
(darperir yr uchod mewn dwy iaith, Groeg a Saesneg)
- MBA llawn amser
- MSc Cyfrifiadura llawn amser