Mae Prifysgol y Plant Gogledd Cymru yn rhan o rwydwaith Prifysgol y Plant, sef menter gyffrous sy’n annog ac yn gwobrwyo pobl Ifanc am gymryd rhan mewn cyfleoedd allgyrsiol a gwirfoddoli.
Pwy sy’n rhedeg Prifysgol y Plant Gogledd Cymru?
Mae Prifysgol y Plant Gogledd Cymru yn cael ei rhedeg gan Brifysgol Glyndŵr, a gychwynnodd Brifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn 2021. Ym mis Rhagfyr 2022, sicrhawyd cyllid i dreialu’r cynllun mewn nifer o ysgolion ledled Gogledd Cymru, gan ddod â Phrifysgol Bangor i mewn i hwyluso’r cynllun ar draws Gogledd-orllewin Cymru.
Er y bydd y peilot blwyddyn hwn yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror 2024, ein gobaith yw gallu cynnal y prosiectau gyda chymorth partneriaid a sefydliadau allweddol, er mwyn eu parhau.
Gyda phwy ydw i’n cysylltu?
Mae yna bedwar tîm yn gweithio ar draws Gogledd Cymru. Mae yna Reolwr Prosiect a Gweinyddwr penodedig ar gyfer pob un o’r ardaloedd isod:
Os hoffech chi gysylltu â thîm penodol, cliciwch ar y ddolen berthnasol uchod.
Arweinir tîm Gogledd Cymru gan y canlynol:
- Natalie Edwards – Rheolwr Prosiect Arweiniol
- Tom Martin – Gweinyddwr Prifysgol y Plant
- Beverley Jepson – Gweinyddwr Creadigol
Mae nodau Prifysgol y Plant yn adlewyrchu’r rhai a ddelir ym Mhrifysgol Glyndwr, ein partneriaid yn y PSB ac yn canolbwyntio ar Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Cymru.
Hygyrch Cynhwysol a Chysylltiedig
Rydym yn eiriolwyr angerddol dros ddysgu gydol oes ac yn credu na ddylai cefndir ac amgylchiadau fod yn rhwystr i ymgysylltu ag addysg. Rydym yn ymroddedig i hygyrchedd, tegwch a chynwysoldeb.
Cydweithredol gefnogol
Rydym yn recriwtio Cyrchfannau Dysgu o bob rhan o’r ardal i ddatblygu rhwydwaith o bosibiliadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn annog ein Cyrchfannau Dysgu i ddarparu amgylchedd cefnogol i ysbrydoli ein haelodau i gyflawni eu nodau dysgu, gwirfoddoli a gyrfa.
Arloesol ac yn integreiddio
Rydym yn cydnabod bod ein llwyddiant yn dibynnu ar egni, deallusrwydd a chreadigrwydd cyfunol y gymuned ehangach. Rydym yn mynd ati i annog safbwyntiau newydd ac i ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid, gan siapio cyfleoedd dysgu newydd gyda’n gilydd.
Uchelgeisiol ar gyfer y tymor hir
Rydym yn uchelgeisiol iawn dros ein haelodau Prifysgol y Plant, eu teuluoedd a’n cymunedau. Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw derfynau i ddysgu a gwybodaeth ac rydym yn herio pobl i gofleidio eu dyheadau a llwyddo trwy addysg.