Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn ymuno â

Phrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint.

Logo for Wrexham and Flintshire / Wrecsam a Sir Y Fflint Children's University with smiley face

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn cofrestru i ddod yn aelod o Brifysgol y Plant ac ar ôl iddynt danysgrifio, bydd eu pobl ifanc yn dod yn aelodau o Brifysgol y Plant ac yn derbyn Pasbort i Ddysgu a manylion mewngofnodi ar gyfer eu dangosfwrdd PP Ar-lein. 

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 8- 16 oed ac fel aelodau Prifysgol y Plant gallent ddechrau casglu eu codau stamp cyn gynted ag y maent yn cyrraedd blwyddyn 4 yn yr Ysgol Gynradd a byddwn yn cadw codau stamp dyfarnu hyd nes y byddant yn gorffen yn yr Ysgol Uwchradd. 

Group of children at graduation

Cwricwlwm i Gymru

Rydym yn uchelgeisiol iawn dros ein haelodau Prifysgol y Plant, eu teuluoedd a’n cymunedau. Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw derfynau i ddysgu a gwybodaeth ac rydym yn herio pobl i gofleidio eu dyheadau a llwyddo trwy addysg

Mae Prifysgol y Plant hefyd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu tuag at bedwar pwrpas y Cwricwlwm i Gymru newydd, rydym yn cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Faint mae’n ei gostio?

Mae Prifysgol y Plant yn cael ei ariannu trwy gyllid gan HEFCW, wedi’i sicrhau gan Brifysgol Glyndŵr.   

Bydd ysgolion a grwpiau cymunedol yn talu ffi ostyngol yn flynyddol o £10 y person ar gyfer  aelodaeth Prifysgol y Plant sy’n darparu’r canlynol

  • Pasbort i Ddysgu (cost ychwanegol o £2.50 y plentyn) 
  • Pecyn aelodaeth 
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant  
  • Tystysgrifau am gyflawni oriau efydd, arian ac aur 
  • Gwahoddiad i fynd i Seremoni Raddio am gyflawni 100 awr 
  • Newyddlenni gweithgareddau bob gwyliau ysgol 

Bydd pob aelod o staff yn cael y canlynol  

  • Hyfforddiant 
  • Llythyrau templed   
  • Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant  
  • Dros 20 o adroddiadau PP ar-lein 
  • Adnoddau dangosfwrdd 
  • Posteri 
  • Cefnogaeth i gynnal dathliadau tystysgrifau yn fewnol 
  • Cefnogaeth drwy’r flwyddyn. 

Young people learning how to dance

Sut ydw i’n cofrestru fy ysgol neu grŵp? 

Bydd yn rhaid i bob grŵp ymrwymo i benodi cydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol. 

Bydd y cydlynwyr yn gyfrifol am; 

  • Mynychu sesiynau hyfforddiant ar-lein PP 
  • Gweithio gyda’r Tîm PP i gofrestru’r holl aelodau ar y cynllun 
  • Uwchlwytho gweithgareddau yn yr ysgol/grŵp cymunedol ar y dangosfwrdd i bobl ifanc 
  • Dosbarthu codau stamp 
  • Sefydlu ardal arddangos gyda’r adnoddau a ddarperir 
  • Ailosod cyfrineiriau aelodau 
  • Trefnu dathliadau tystysgrifau yn fewnol 
  • Dosbarthu newyddlenni a gwahoddiadau ar gyfer achlysuron arbennig 
  • Cefnogi pobl ifanc i barhau 

Trwy gwblhau’r ffurflen ganlynol, bydd y Tîm Prifysgol y Plant yn gallu olrhain eich ymholiad gyda gwybodaeth wedi’i deilwra i’ch ymatebion, lleoliad a grŵp oedran eich pobl ifanc. Sylwch, dim ond i leoliadau yn Wrecsam a Sir y Fflint y mae'r opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd.

Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn ymuno â Phrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint. Trwy gwblhau’r ffurflen ganlynol, bydd y Tîm Prifysgol y Plant yn gallu olrhain eich ymholiad gyda gwybodaeth wedi’i deilwra i’ch ymatebion, lleoliad a grŵp oedran eich pobl ifanc. 

Rhagwelwn ychydig fisoedd prysur ar ôl y lansiad, felly efallai bydd oedi o ran eich sefydliad yn dechrau ar y cynllun.  

Sylwch, wrth gwblhau’r ffurflen hon, nid ydych yn ymrwymo i ymuno a Phrifysgol y Plant.

Boy cooking