Group picture of children and cosplayers

Sut all fy mhlentyn gymryd rhan?

Bydd ysgolion a grwpiau cymunedol yn Wrecsam a Sir y Fflint yn gallu ymuno â Phrifysgol y Plant o dydd Llun 2 Hydref 2023

Os ydych chi'n teimlo y byddai'r cynllun hwn yn elwa ysgol eich plentyn, beth am siarad â'i hathro neu bennaeth blwyddyn. Bydd tîm y prosiect yn fodlon iawn siarad ag unrhyw ysgol sydd â diddordeb.

Yn anffodus, ni allwn gynnig aelodaeth unigol neu deuluol ar hyn o bryd.  Mae Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant (sy’n rhedeg rhwydwaith PP) yn gweithio ar gynllun cenedlaethol lle gall plant unigol ymuno. E-bostiwch contactus@childrensuniversity.co.uk am fwy o fanylion. 

Yn y cyfamser, mae croeso i chi ddefnyddio rhai o'n hadnoddau ar wefan Prifysgol y Plant fel gweithgareddau i'w cwblhau gyda'ch plentyn, a gellir cwblhau sawl un gartref – https://www.childrensuniversity.co.uk/activity-search/

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Bydd tîm Prifysgol Y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn darparu newyddlenni rheolaidd ar gyfer y rhieni a gofalwyr eu haelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynllun.

Os byddwch yn dymuno derbyn newyddlen ar e-bost, gallwch gofrestru yma - http://eepurl.com/hUjGuj

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r rhifynnau diweddaraf isod

Angen eich atgoffa o’r hyn ydych angen?

Angen eich atgoffa o’r hyn mae eich plentyn angen ei wneud? Sut i fewngofnodi i’ch dangosfwrdd? Sut i ganfod gweithgareddau? Gwyliwch y fideo byr hwn gan Natalie, y Rheolwr Prosiect

https://youtu.be/OSeU0FG8QBw 

Teenager spray painting

Beth sy'n rhaid i fy mhlentyn i ei wneud?

Mae'r plant a'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant yn dewis beth maen nhw eisiau ei ddysgu, eu gweithgareddau eu hunain ac yn bwysicaf na dim, maent yn cael hwyl!

Byddant yn cael cyfle i ennill credydau drwy:

  • fynychu clybiau ysgol ar safle'r ysgol
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli, allgyrsiol yn ystod amser ysgol megis gwersi cerdd
  • cwblhau gweithgareddau ar-lein
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau gan Gyrchfannau Dysgu megis Xplore!, Theatr Clwyd a chlybiau chwaraeon lleol, grwpiau theatr a sefydliadau eraill. Gellir dod o hyd i'r rhestr faith o ddarparwyr yma - https://www.childrensuniversity.co.uk/activity-search/
  • Cwblhau heriau yn ystod y gwyliau gan Dîm Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint

Sut mae'n gweithio?

Bydd plant a phobl ifanc yn derbyn cod stamp ar gyfer bob gweithgaredd maent yn cymryd rhan ynddo. Maent yn cofnodi eu codau yn eu Pasport Dysgu a phob wythnos, byddant yn mewngofnodi i'w porth PP Ar-lein i droi eu stampiau'n oriau. 

Yn bwysicach na dim, ar ôl i'ch plentyn gwblhau 30 awr o Weithgareddau Dysgu bydd yn cael tystysgrif a gwahoddiad i ddathliad ar arddull graddio yn Neuadd Williams Aston yn Wrecsam, a llogi cap academaidd a gwn am ddim.

Os nad oes cod stamp ar y Cyrchfan Ddysgu, nid ydynt wedi ymuno â'r system ar-lein newydd eto. Gallwch eu cyfeirio nhw i'r wefan i wneud hyn - https://www.childrensuniversity.co.uk/get-involved/learning-providers/

Group of kids and instructor holding learning destination poster

Ymwadiad

Fel rhan o'r broses ddilysu ar Brifysgol y Plant Ar-lein, mae pob Cyrchfan Ddysgu yn cydnabod, ddwywaith, bod materion Iechyd a Diogelwch, Atebolrwydd Cyhoeddus, GDPR a Diogelu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb arnynt a bod disgwyl iddynt weithredu yn unol â'u gofynion statudol yn y meysydd hyn. Mae diogelwch Covid yn rhan o hyn. 

Nid yw Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn adolygu cofnodion DBS, Iechyd a Diogelwch, Diogelu nac unrhyw bolisïau statudol eraill. Ni fydd Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am faterion Iechyd a Diogelwch, Atebolrwydd Cyhoeddus, GDPR a Diogelu sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llwyr i'r darparwyr gweithgaredd naill ai yn yr Ysgol a/neu'r Cyrchfannau Dysgu. Cyfrifoldeb pob Rhiant neu Ofalwr yw sicrhau bod darpariaeth gweithgaredd, gan Gyrchfannau Dysgu yn y gymuned, yn ddiogel ar gyfer eu plentyn.

Mae mwy o fanylion am Brifysgol y Plant ar gael yn www.childrensuniversity.co.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch childrens.university@glyndwr.ac.uk