Cyrchfan Ddysgu
Beth yw Cyrchfan Ddysgu?
Dyma’r enw a ddefnyddiwn i gyfeirio at sefydliadau neu leoedd, sydd wedi cofrestru i Brifysgol y Plant ac yn cynnig gweithgareddau allgyrsiol a gwirfoddoli o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ennill credydau.
Maent yn weithgareddau gwirfoddol sy’n golygu bod plentyn neu berson ifanc wedi dewis cymryd rhan ynddynt gan eu bod fel rheol y tu allan i’r cwricwlwm ysgol arferol.
A oes gwahanol fathau o Gyrchfannau Dysgu?
Cyrchfan Ddysgu Gyhoeddus yw’r enw a roddir ar leoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd megis amgueddfeydd, llyfrgelloedd, theatrau, sŵau ayyb.
Cyrchfan Ddysgu Gyfyngedig yw’r enw a roddir ar y rheiny nad ydynt ar agor i’r cyhoedd megis clybiau ar ôl ysgol, gweithleoedd a chlybiau sy’n gofyn i chi fod yn aelod.
Yn ogystal mae Cyrchfannau Dysgu sydd ar gael yn genedlaethol megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd ar agor i holl aelodau Prifysgol y Plant, ni waeth lle mae eu cartref.
Os oes gennych weithgareddau ar-lein y gellid eu cynnig yn genedlaethol, cysylltwch â’r tîm i drafod eich opsiynau ar gyfer y gweithgaredd hwnnw.
Beth sydd angen i mi ei wneud i ddod yn Gyrchfan Ddysgu?
Mae dod yn Gyrchfan Ddysgu yn broses gyflym, hawdd a rhad ac AM DDIM. Mae peth gwaith gweinyddol i ddechrau, gan fod angen manylion yr holl weithgareddau y dymunwch eu dilysu arnom. Mae dilysu yn cynnwys llenwi ffurflen ar-lein, syml i sicrhau eich bod yn darparu profiad diogel o ansawdd uchel i’n haelodau Prifysgol y Plant.- https://www.childrensuniversity.co.uk/get-involved/learning-providers/
Gallwch ddilysu mwy nag un gweithgaredd, cyn belled â’u bod yn wahanol. Er enghraifft, gall clwb pêl-droed ddilysu eu sesiwn bêl-droed ar fore Sadwrn, gwersyll gwyliau pêl-droed a sesiwn bêl-droed ar ôl ysgol yn yr ysgol gynradd leol. Byddai gan bob un ohonynt god gwahanol.Gall aelod o’r tîm eich ffonio, ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen i drafod eich darpariaeth.
Beth yw ‘cod stamp’?
Mae cod stamp yn god cyfrinachol byr iawn sy’n unigryw i bob gweithgaredd y gall plant ei wneud. Mae’r codau hyn yn fyr ac yn rhwydd eu hysgrifennu i mewn i basbort, sy’n cynnwys lliw a rhif 4 digid yn unig. Ar ôl eu hennill, bydd plant a phobl ifanc yn mewngofnodi i Brifysgol y Plant Ar-lein a'u dangosfwrdd unigol ac yn ychwanegu'r codau. Mae hyn yn eu helpu nhw i weld sut maen nhw'n datblygu at y lefel wobrwyo nesaf; myfyrio ar y sgiliau maent yn eu meithrin wrth gael eu hannog i roi cynnig ar rywbeth newydd a chyffrous.
Ar ôl i chi gofrestru fel Cyrchfan Ddysgu Prifysgol y Plant, yr oll sydd angen i chi ei wneud yw llofnodi neu stampio Pasbort plentyn.
Pam ddylwn i ddod yn Gyrchfan Ddysgu?
Ar ôl i chi gael eich dilysu, byddwn yn rhoi logo Cyrchfan Ddysgu Prifysgol y Plant i chi ei ddangos yn glir y tu mewn a’r tu allan i’ch sefydliad. Byddwch yn gallu cynnwys y logo Cyrchfan Ddysgu ar lenyddiaeth, papur â phennawd a byddwch wedi eich rhestru ar wefan Prifysgol y Plant. Byddwn hefyd yn hyrwyddo eich gwasanaethau ar ein cyfryngau cymdeithasol o dro i dro.
Ymwadiad
Sylwch – mae Prifysgol y Plant yn dilysu’r dysgu sy’n digwydd yn y Cyrchfannau Dysgu yn unig.
Fel rhan o'r broses ddilysu ar Brifysgol y Plant Ar-lein, mae pob Cyrchfan Ddysgu yn cydnabod, ddwywaith, bod materion Iechyd a Diogelwch, Atebolrwydd Cyhoeddus, GDPR a Diogelu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb arnynt a bod disgwyl iddynt weithredu yn unol â'u gofynion statudol yn y meysydd hyn. Mae diogelwch Covid yn rhan o hyn.
Nid yw Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn adolygu cofnodion DBS, Iechyd a Diogelwch, Diogelu nac unrhyw bolisïau statudol eraill. Ni fydd Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am faterion Iechyd a Diogelwch, Atebolrwydd Cyhoeddus, GDPR a Diogelu sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llwyr i'r darparwyr gweithgaredd naill ai yn yr Ysgol a/neu'r Cyrchfannau Dysgu.
Unrhyw gwestiynau eraill?
Cysylltwch â thîm Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint drwy e-bostio’r tîm ar childrens.university@glyndwr.ac.uk
Efallai yr hoffech wylio a rhannu’r fideo byr hwn hefyd. Mae’n esbonio pwrpas a phwysigrwydd Prifysgol y Plant https://bit.ly/3De2vXh ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni drwy childrens.university@glyndwr.ac.uk