Seremonïau Graddio Wrecsam a Sir y Fflint 2024
Seremonïau Graddio Wrecsam a Sir y Fflint 2024
Seremonïau i Ysgolion
Bydd y Seremonïau Graddio ar gyfer cynllun Peilot Gogledd Cymru i ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint yn cael eu cynnal ar 19 a 20 Chwefror 2024.
Bydd mwy o fanylion am y lleoliad a'r amseriadau yn cael eu cynnwys yn y gwahoddiad, a fydd yn cael ei anfon at athrawon ysgol sy'n hwyluso Prifysgol y Plant. Yna byddant yn anfon y gwahoddiad at y bobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr.
Gofynnir i rieni a gofalwyr anfon eu RSVP trwy ein system archebu fel y gall y Tîm PyP gynllunio yn unol â hynny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Seremoni Raddio, e-bostiwch northeastcu@glyndwr.ac.uk
Cliciwch ar y ysgol y mae eich plentyn ynddi, er mwyn archebu tocynnau;
Dydd Llun 19 Chwefror
Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria
Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro
Dydd Mawrth 20 Chwefror
Ysgol Gynradd Gymunedol Hafod y Wern
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Bronington
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir St Paul’s
Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi
Sylwch y bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Santes Gwenffrewi yn mynychu’r Seremoni Raddio a gynhelir ar 27 Chwefror ym Mhafiliwn y Rhyl. Cliciwch ar enw’r ysgol i gofrestru eich presenoldeb ar gyfer y seremoni honno.
Seremonïau ar gyfer Grwpiau Cymunedol Dinas Diwylliant
Bydd y Seremonïau Graddio ar gyfer y cynllun peilot Dinas Diwylliant i grwpiau cymunedol yn Wrecsam yn cael eu cynnal ar 22 a 23 Chwefror 2024.
Bydd mwy o fanylion am y lleoliad a'r amseriadau yn cael eu cynnwys yn y gwahoddiad, a fydd yn cael ei anfon at arweinwyr grwpiau cymunedol sy'n hwyluso Prifysgol y Plant. Yna byddant yn anfon y gwahoddiad at y bobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr.
Gofynnir i rieni a gofalwyr anfon eu RSVP trwy ein system archebu fel y gall y Tîm PyP gynllunio yn unol â hynny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Seremoni Raddio, e-bostiwch childrens.university@glyndwr.ac.uk