Graduation

Prifysgol y Plant Gogledd Cymru

Mae ein cynllun yn annog ac yn gwobrwyo pobl ifanc am roi cynnig ar weithgareddau newydd ac ymwneud â gwirfoddoli.

Drwy wneud hynny, gobeithio y byddan nhw’n darganfod ffrindiau a hobïau newydd, yn dysgu sgiliau newydd, yn magu hyder ac yn archwilio eu potensial.

Rydym ni’n cyfeirio plant a phobl ifanc at unigolion a sefydliadau partner yng ngogledd Cymru a’r cyffiniau sydd yn darparu gweithgareddau allgyrsiol a gwirfoddoli, er mwyn iddynt brofi amrywiaeth eang o bethau hwyliog i’w gwneud yn hawdd. 

Graduation

Seremoni Graddio

Bob tro y bydd aelod o Brifysgol y Plant yn cwblhau gweithgaredd, maent yn derbyn cod stamp sydd yn troi mewn i amser ac rydym ni ym Mhrifysgol y Plant yn gwobrwyo’r amser gyda thystysgrifau, ond yn fwy pwysig, gyda Seremoni Raddio bob blwyddyn.

Mae’r Seremoni Raddio yn galluogi i blant a phobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu dathlu ochr yn ochr â’u cyfoedion ac o flaen eu hathrawon, rhieni ac urddasolion lleol. 

Mae mynychu’r seremonïau hyn yn rhywbeth enfawr ac mae’r ymdeimlad o ddathlu sy’n cael ei greu yn rhan enfawr o’r hyn sydd yn parhau i ysgogi a chymell plant.  

Boy and girl have their passport signed at Xplore

Recordio fideo yn llongyfarch

Rydym ni’n dymuno casglu negeseuon o gefnogaeth a llongyfarchiadau gan bobl, fel chi, sydd â chysylltiadau gyda Gogledd Cymru/Cymru (dewisol) ac mae ein plant a rhieni yn eu parchu a’u hedmygu.  

Fe garem ni, petai gennych chi amser i ffilmio neges fer o gefnogaeth a llongyfarchiadau, ac yna fe fyddwn ni’n chwarae'r negeseuon ar ddechrau’r Seremonïau Graddio.

Fe gewch chi ragor o wybodaeth drwy ddarllen y wybodaeth isod, er fe allwch chi gysylltu â Natalie Edwards, Rheolwr Prosiect, Prifysgol y Plant Gogledd Cymru, gydag unrhyw gwestiynau penodol.

E-bost: childrens.university@wrexham.ac.uk 

Rhif ffôn: 01978 293134

Beth yr hoffech chi i mi ei ddweud?

Er ein bod wedi rhestru awgrymiadau isod, mae croeso i chi ei newid a dweud yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud, gan ddilyn y strwythur isod;

  • Llongyfarchiadau
  • Cyflwyno eich hun, eich gyrfa a’ch cysylltiadau â Gogledd Cymru/Cymru (dewisol)
  • Cydnabod eu gwaith caled i gyrraedd y Seremoni Raddio
  • Eu hatgoffa i ddal ati!

“Llongyfarchiadau i’r plant a phobl ifanc sydd yn rhan o Seremoni Raddio heddiw ym Mhrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint. 

Fy enw i yw…. ac rydw i’n….

  • Siaradwch am eich gyrfa/rôl
  • Siaradwch am eich cysylltiadau â Gogledd Cymru/Cymru (dewisol)

Er nad ydw i’n gallu bod yna’n dathlu gyda chi, roeddwn i eisiau dweud da iawn am eich holl waith caled. Gobeithio eich bod wedi cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd a gobeithio y gallwch chi barhau ar y siwrnai hon.

Dwi’n siŵr eich bod chi’n ddigon o sioe yn eich gynau a’ch capiau academaidd a dwi’n gwybod bod eich rhieni, gofalwyr, athrawon a’ch ffrindiau’n falch iawn ohonoch chi.

Daliwch ati gyda’r gwaith da! Wyddoch chi ddim i ble fydd y cyfleoedd yma’n eich arwain chi’n y dyfodol.”

David Walliams on screen

campus tower

Negeseuon o gefnogaeth oddi

Pa mor hir ddylai fy neges i fod?

Gall fod mor fyr neu mor hir ag rydych chi’n dymuno. Fe fyddem ni wir yn gwerthfawrogi fideo 1 munud o hyd, ond ddim mwy na 5 munud. 

Sut ddylwn i ffilmio fy fideo?

Nid ydym yn chwilio am unrhyw beth sydd wedi’i ffilmio’n broffesiynol.  Fe fydd fideo byr sydd wedi'i ffilmio o liniadur neu ffôn symudol yn grêt.  Ceisiwch sicrhau ei fod yn cael ei ffilmio  ar ffurf tirwedd a bod modd ei glywed.

Sut allaf i anfon fy fideo?

Sut fyddwch chi’n defnyddio fy fideo?

Bydd y fideos yr ydym yn eu casglu yn cael eu chwarae yn Seremonïau Graddio Prifysgol y Plant Gogledd Cymru a gynhelir ar:

  • 19 a 20 Chwefror 2024 - Prifysgol Wrecsam - i bobl ifanc ym Mhrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint.

  • 27 Chwefror 2024 - Pafiliwn y Rhyl - i bobl ifanc ym Mhrifysgol y Plant Conwy a Sir Ddinbych

  • 29 Chwefror - Prifysgol Bangor - i bobl ifanc ym Mhrifysgol y Plant Gwynedd a Môn.

  • 23 Mawrth - Prifysgol Wrecsam - o bobl ifanc ym Mhrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint (Grwpiau Cymunedol)

Gallwch ddarganfod mwy am Brifysgol y Plant Gogledd Cymru yma - Prifysgol y Plant - Prifysgol Wrecsam

Graduation