Cynllun Peilot Gogledd Cymru 2023
Mae Prifysgol y Plant, sy’n anelu at ysbrydoli cariad at ddysgu ymhlith plant a phobl ifanc drwy hyrwyddo a gwobrwyo gweithgareddau dysgu, yn cael ei hymestyn ar draws Gogledd Cymru ar ôl sicrhau dros £800,000 o gyllid.
Bydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a nifer o bartneriaid gan gynnwys Prifysgol Bangor yn peilota Prifysgol y Plant ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn tan fis Chwefror 2024.
Bydd cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddefnyddio i recriwtio staff ar draws y rhanbarth a bydd y timau newydd yn ymgysylltu gyda thros 40 o ysgolion a 1000 o bobl ifanc.
Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot Wrecsam a Sir y Fflint yn 2021, bydd disgyblion yn cael eu herio i gwblhau 30 awr o weithgareddau allgyrsiol a gwirfoddol, yn eu hysgolion, yn eu cymunedau, ar-lein ac yn eu cartrefi, er mwyn ennill codau stamp a gaiff eu trosglwyddo i amser.
Bydd y bobl ifanc sy’n cyflawni eu tystysgrif Efydd, 30 awr, yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni arbennig mewn cap a gwisg graddio i’w gwobrwyo am eu gwaith caled.
Ymwelwch â’n sianel YouTube i weld beth wnaeth y bobl ifanc yng Nghynllun Peilot 2021.
Awydd cymryd rhan?
Rydym yn chwilio am ysgolion arloesol a chreadigol i ymuno â Chynllun Peilot Gogledd Cymru. Bydd y grant yn ariannu 35 o bobl ifanc, fesul ysgol, i ddod yn aelodau o Brifysgol y Plant o fis Medi 2023 tan fis Chwefror 2024.
Bydd pob unigolyn ifanc yn cael y canlynol
- Pasbort i Ddysgu
- Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
- Tystysgrifau am gyflawni 30 awr
- Gwahoddiad i fynd i Seremoni Raddio ym mis Ionawr / Chwefror 2024
Bydd pob aelod o staff yn cael y canlynol
- Hyfforddiant
- Llythyrau templed
- Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
- Cefnogaeth drwy gydol y peilot
Bydd yn rhaid i bob ysgol ymrwymo i benodi dau gydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol.
Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc ym mlynyddoedd 4-8 mewn ysgol ac yn awyddus i gofrestru grŵp o hyd at 35 o bobl ifanc ar y cynllun, gallwch ddarganfod mwy a chofrestru eich diddordeb drwy glicio yma.
Sylwch os gwelwch yn dda, nid yw cwblhau’r cofrestriad yn golygu y byddwch yn cael eich derbyn ar y cynllun.
Angen rhagor o wybodaeth?
Os hoffech chi ddysgu mwy am Brifysgol y Plant cyn llenwi’r ffurflen datgan diddordeb, mae croeso i chi fynd i un o’n sesiynau gwybodaeth ar-lein ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Llun 22 Mai am 10yb
- Dydd Mercher 24 Mai am 2.30pm
- Dydd Iau 25 Mai am 1.30pm
- Dydd Gwener 26 Mai am 4pm
- Dydd Llun 5 Mehefin am 1.30pm
- Dydd Mawrth 6 Mehefin am 9.30am
- Dydd Mercher 7 Mehefin am 12.30pm
- Dydd Iau 8 Mehefin am 9.30am
- Dydd Gwener 9 Mehefin am 11am
Cofrestrwch ar gyfer eich sesiwn ddewisol, drwy e-bostio – childrens.university@glyndwr.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin Cynllun Peilot Gogledd Cymru
Ydy fy ysgol yn gymwys i wneud cais?
Os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed ac yn cynnig gweithgareddau lle mae dysgu'n digwydd a bod dewis i gymryd rhan, gallwn weithio gyda chi.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Bydd eich ysgol yn gallu dewis pa bobl ifanc i gymryd rhan yn y cynllun, ond rydym yn gofyn i chi roi ystyriaeth i’r canlynol;
- Plant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim?
- Plant sy’n Derbyn Gofal
- Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Plant sy’n Sipsiwn a Theithwyr
- Plant sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol
- Plant ag anableddau
- Plant o aelwydydd BAME (Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig)
- Plant o deuluoedd lle nad yw’r rhiant / gwarcheidwad wedi bod i’r Brifysgol
- Plant sydd mewn perygl o ddatgysylltu o’r ysgol
- Gofalwyr Ifanc
Beth sy’n digwydd pan ddaw’r peilot i ben?
Bydd y bobl ifanc dan sylw yn gallu cadw eu Pasbortau i Ddysgu a byddant yn cael eu hannog i ymchwilio i'r gweithgareddau a ddarperir yn y gymuned ehangach drwy Gyrchfannau Dysgu dilys.
Bydd ysgolion sy'n dewis parhau yn cael gwybod am y ffi aelodaeth flynyddol a fydd yn daladwy unwaith y daw'r peilot am ddim i ben.