Ffotomarathon 2022
Beth yw Ffotomarathon?
Gwyliwch ein fideo - https://youtu.be/dEm-LblweLo
Mae ffotomarathon yn gystadleuaeth ffotograffiaeth lle mae pobl yn tynnu nifer o ffotograffau, o fewn cyfnod penodol, sy’n adlewyrchu geiriau allweddol sy’n cael eu rhoi iddyn nhw ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Beth fydd yn digwydd?
Bydd gan ffotograffwyr iau 3 awr i gymryd 5 delwedd, sy’n adlewyrchu 5 gair neu ddywediad allweddol y byddant yn eu derbyn ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Beth allaf i ei ennill?
Bydd enillwyr yn derbyn taleb £10.
I ble allaf i fynd?
Unrhyw le yn y sir sy’n cynnal y gystadleuaeth.
Beth sydd angen i ni ei wneud?
Bydd yn rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Ar y diwrnod bydd eich grŵp yn cael amlen gyda’r geiriau ynddi. Bydd pob grŵp yn cychwyn ac yn gorffen yr un pryd. Ar ôl i chi gael eich amlen mae croeso i chi adael a dechrau tynnu eich ffotograffau – does dim rhaid i chi fynd yn ôl i’r man cychwyn. Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi am y llun gorau i bob gair. Byddwch yn cael gwybod os ydych chi wedi ennill o fewn wythnos i’r gystadleuaeth.
Oes angen camera arnaf i?
Gallwch ddefnyddio camera neu gamera eich ffôn symudol.
Dydw i ddim yn gwybod llawer am ffotograffiaeth
Ble bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn cynnal dosbarth meistr ffotograffiaeth i’r teulu cyfan YN RHAD AC AM DDIM cyn y gystadleuaeth. Bydd yr hyfforddwr yn dangos sut mae cael y lluniau gorau, beth bynnag eich dyfais. Mae’r dosbarthiadau meistr yn opsiynol, ond os oes arnoch chi eisiau mynd i ddosbarth meistr cofiwch gofrestru i gadw’ch lle.
Faint o oed sy’n rhaid bod i gymryd rhan?
Rydym ni’n croesawu ffotograffwyr ifanc o 8 i 16 oed. Mae’n rhaid i chi fod yng nghwmni o leiaf un oedolyn 18 oed neu hŷn.
Sut fyddwch chi’n gweld ein lluniau ni?
Bydd gofyn i’r oedolyn yn eich grŵp anfon y lluniau mewn e-bost, gan nodi eich enw a’r gair/ymadrodd. Bydd tîm Prifysgol y Plant yn argraffu’r lluniau wrth iddynt eu derbyn. Byddwn hefyd yn rhannu eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol i bawb eu gweld.
Sut ydw i’n anfon fy lluniau?
Dros e-bost i photos@glyndwr.ac.uk neu dros WeTransfer. Gall eich oedolyn eich helpu i wneud hyn.
Allaf i gael cod stamp gan Brifysgol y Plant?
Os ydych chi’n rhan o brosiect peilot Prifysgol y Plant Gogledd Cymru, byddwch yn gallu cael stamp am gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.
Sut ydym ni’n cofrestru?
Mae mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i gofrestru i’w gweld yma
Ffotomarathon Teuluoedd Wrecsam 2023
Llyfrgell Wrexham, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU - Dydd Sadwrn 14eg Hydref - 10am - 1pm. Register here -
Ffotomarathon Teuluoedd Sir Y Fflint 2023
Llyfrgell Flint, Heol yr Eglwys, Y Flint, CH6 5AP - Dydd Sadwrn 21 Hydref - 10am - 1pm. Register here -
Ffotomarathon Teuluoedd Conwy 2023
Llyfrgell Bae Colwyn, Ffordd Coetir Orllewinol, Bae Colwyn, LL29 7DH - Dydd Sadwrn 14eg Hydref - 10am - 1pm. Register here -
Ffotomarathon Teuluoedd Rhyl 2023
Llyfrgell Rhyl, Stryd yr Eglwys, Rhyl, LL18 3AA - Dydd Sadwrn 21 Hydref - 10am - 1pm. Register here -
Ffotomarathon Teuluoedd Gwynedd (Abermaw) 2023
Llyfrgell Abermaw, Ffordd yr Orsaf, Aberwaw, LL42 1LU - Dydd Sadwrn 21 Hydref - 10am - 2pm. Register here -
Ffotomarathon Teuluoedd Gwynedd (Caernarfon) 2023
Llyfrgell Caernarfon, Lôn Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS - Dydd Sadwrn 14eg Hydref - 10am - 2pm. Register here -
Anglesey Photomarathon 2024
To be confirmed
**Mae’n RHAID COFRESTRU i gymryd rhan**
Fe ofynnir i deuluoedd sydd wedi cofrestru i gyrraedd gyda 15 munud wrth gefn, er mwyn cofrestru a bod yn barod i dderbyn eu hamlenni pan fydd y gystadleuaeth 3 awr o hyd yn cychwyn.