Y Peilot 2021
Rhwng Tachwedd 2021 a Mai 2022 roedd nifer fechan o ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint wedi eu gwahodd i fod yn rhan o’n cynllun peilot.
Y rheiny gymerodd rhan
- Ysgol Bodhyfryd
- Ysgol Morgan Llwyd
- Ysgol Min y Ddol
- Ysgol Gynradd Gatholig Saltney Ferry
- Ysgol Uwchradd St David's
- Ysgol Annibynnol Bryn Tirion Hall
- Art & Soul Youth Tribe
- Fforwm Ieuenctid Partneriaeth Parc Caia
176 o bobl ifanc wedi dechrau’r cynllun peilot ac wedi cael eu herio i gwblhau 30 awr o weithgareddau allgyrsiol er mwyn mynychu seremoni raddio arbennig iawn.
Mae pob ymgeisydd yn derbyn Pasport Addysgu, eu cyfrif PP ar-lein personol a hyfforddiant wyneb yn wyneb. Ar ddechrau a diwedd y cyfnod peilot gofynnwyd i’r bobl ifanc lenwi holiadur byr i’n helpu ni ddeall eu taith.
O’r 176 wnaeth ddechrau, roedd 126 yn llwyddiannus mewn ennill 30 awr o weithgareddau.
Eisiau gweld beth y mae pawb wedi bod fyny iddo? Gwyliwch y fideos byr llawn hwyl hyn i weld sut mae ein haelodau o’r cynllun peilot wedi cyflawni eu targedau -
O’r 126 a fu’n llwyddiannus dyma 112 yn mynychu ein Seremoni Graddio cyntaf erioed a dyma achlysur arbennig iawn.
Wyddoch chi ein bod wedi derbyn fideo gan y Michael Sheen yn llongyfarch yr aelodau!
Yr Ystadegau
- 176 o bobl ifanc wedi dechrau’r cynllun peilot
- 126 wedi cwblhau 30 awr o weithgareddau
- 112 wedi mynychu’r seremoni Raddio
- 210 wedi cymryd rhan yn y Seremoni Raddio yn cynnwys rhieni/gofalwyr, staff cymorth, gweithwyr ieuenctid a chynrychiolwyr o’r gymuned.
- Pobl ifanc wedi cwblhau 6173 o oriau mewn 6 mis.
Yr hyn wnaethon ni ei ddysgu o ddata y cynllun peilot
- Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol oedd y gweithgareddau mwyaf poblogaidd ymysg y bobl ifanc.
- Roedd Sgiliau Bywyd Ymarferol ac Iechyd Meddwl a Lles yn weithgareddau o ddewis hefyd.
- Roedd gweithgareddau Celf a Diwylliant a dysgu yn yr awyr agored yn boblogaidd hefyd.
- Roedd aelodau’r cynllun peilot yn mwynhau derbyn newyddlenni gwyliau ysgol oedd yn llawn o weithgareddau i’w cwblhau. Gweithgareddau o ddewis yn cynnwys coginio, pobi a thynnu llun.
Diolch i’r bobl a’r partneriaid canlynol a wnaeth hi’n bosib cynnal Seremoni Graddio 2022;
- Staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Coleg Cambria
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Sir y Fflint
- GwE
Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i’r staff addysgu a’r cydlynwyr grwpiau sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi eu pobl ifanc ac i gyflawni’r cynllun peilot;
- Lisa Jones o Ysgol Bodhyfryd
- Bryn Jones o Ysgol Morgan Llwyd
- Tom Evison o Ysgol Min y Ddol
- Nick Martin o Ysgol Gynradd Gatholig Saltney Ferry
- James Walker o Ysgol Uwchradd St David’s
- Sarah Gaffney o Ysgol Annibynnol Bryn Tirion Hall
- Jane Bellis o Art & Soul Youth Tribe
- Alice Williams o Fforwm Ieuenctid Partneriaeth Parc Caia
Mae mwy o fanylion am Brifysgol y Plant ar gael yn www.childrensuniversity.co.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y peilot, e-bostiwch childrens.university@glyndwr.ac.uk