Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn ymuno â
Phrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn cofrestru i ddod yn aelod o Brifysgol y Plant ac ar ôl iddynt danysgrifio, bydd eu pobl ifanc yn dod yn aelodau o Brifysgol y Plant ac yn derbyn Pasbort i Ddysgu a manylion mewngofnodi ar gyfer eu dangosfwrdd PP Ar-lein.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 8- 16 oed ac fel aelodau Prifysgol y Plant gallent ddechrau casglu eu codau stamp cyn gynted ag y maent yn cyrraedd blwyddyn 4 yn yr Ysgol Gynradd a byddwn yn cadw codau stamp dyfarnu hyd nes y byddant yn gorffen yn yr Ysgol Uwchradd.
Cwricwlwm i Gymru
Rydym yn uchelgeisiol iawn dros ein haelodau Prifysgol y Plant, eu teuluoedd a’n cymunedau. Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw derfynau i ddysgu a gwybodaeth ac rydym yn herio pobl i gofleidio eu dyheadau a llwyddo trwy addysg
Mae Prifysgol y Plant hefyd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu tuag at bedwar pwrpas y Cwricwlwm i Gymru newydd, rydym yn cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Faint mae’n ei gostio?
Mae Prifysgol y Plant yn cael ei ariannu trwy gyllid gan HEFCW, wedi’i sicrhau gan Brifysgol Glyndŵr.
Bydd ysgolion a grwpiau cymunedol yn talu ffi ostyngol yn flynyddol o £10 y person ar gyfer aelodaeth Prifysgol y Plant sy’n darparu’r canlynol
- Pasbort i Ddysgu (cost ychwanegol o £2.50 y plentyn)
- Pecyn aelodaeth
- Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
- Tystysgrifau am gyflawni oriau efydd, arian ac aur
- Gwahoddiad i fynd i Seremoni Raddio am gyflawni 100 awr
- Newyddlenni gweithgareddau bob gwyliau ysgol
Bydd pob aelod o staff yn cael y canlynol
- Hyfforddiant
- Llythyrau templed
- Cyfrif ar-lein Prifysgol y Plant
- Dros 20 o adroddiadau PP ar-lein
- Adnoddau dangosfwrdd
- Posteri
- Cefnogaeth i gynnal dathliadau tystysgrifau yn fewnol
- Cefnogaeth drwy’r flwyddyn.
Sut ydw i’n cofrestru fy ysgol neu grŵp?
Bydd yn rhaid i bob grŵp ymrwymo i benodi cydlynydd Prifysgol y Plant pwrpasol gyda sgiliau TG a chyfathrebu da, a fydd yn gyfrifol am drefnu’r cynllun yn fewnol.
Bydd y cydlynwyr yn gyfrifol am;
- Mynychu sesiynau hyfforddiant ar-lein PP
- Gweithio gyda’r Tîm PP i gofrestru’r holl aelodau ar y cynllun
- Uwchlwytho gweithgareddau yn yr ysgol/grŵp cymunedol ar y dangosfwrdd i bobl ifanc
- Dosbarthu codau stamp
- Sefydlu ardal arddangos gyda’r adnoddau a ddarperir
- Ailosod cyfrineiriau aelodau
- Trefnu dathliadau tystysgrifau yn fewnol
- Dosbarthu newyddlenni a gwahoddiadau ar gyfer achlysuron arbennig
- Cefnogi pobl ifanc i barhau
Trwy gwblhau’r ffurflen ganlynol, bydd y Tîm Prifysgol y Plant yn gallu olrhain eich ymholiad gyda gwybodaeth wedi’i deilwra i’ch ymatebion, lleoliad a grŵp oedran eich pobl ifanc. Sylwch, dim ond i leoliadau yn Wrecsam a Sir y Fflint y mae'r opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd.
Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn ymuno â Phrifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint. Trwy gwblhau’r ffurflen ganlynol, bydd y Tîm Prifysgol y Plant yn gallu olrhain eich ymholiad gyda gwybodaeth wedi’i deilwra i’ch ymatebion, lleoliad a grŵp oedran eich pobl ifanc.
Rhagwelwn ychydig fisoedd prysur ar ôl y lansiad, felly efallai bydd oedi o ran eich sefydliad yn dechrau ar y cynllun.
Sylwch, wrth gwblhau’r ffurflen hon, nid ydych yn ymrwymo i ymuno a Phrifysgol y Plant.