Content Accordions

  • Gwobrau Datblygu Ymchwil: Grant Cydraddoldeb Hil a Chynhwysiant

    Enillydd: Dr Saba Ishaq, Darlithydd Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Fusnes Wrecsam

    Sut y Mae Disgwyliadau o ran Rhywedd yn Llywio Arferion Busnes i Entrepreneuriaid Benywaidd ym Mhacistan

    saba in graduation gown and hat

    Bwriad Gwobr Cynhwysiant Cydraddoldeb Hil ac Ymchwil yw cefnogi a datblygu gyrfaoedd ymchwil staff academaidd a myfyrwyr ôl-ddoethurol Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig ym Mhrifysgol Wrecsam.

    Mae Dr Ishaq wedi cael £2,000 i gefnogi prosiect ymchwil sy'n edrych ar brofiadau bywyd entrepreneuriaid benywaidd sy'n gweithio mewn amgylchedd busnes gyda dynion yn gweithio’n bennaf ynddo ym Mhacistan.

    Bydd gwaith maes ym Mhacistan yn rhan o’r prosiect, a fydd yn cynnwys cyfweliadau ansoddol ac ymchwil arsylwi mewn lleoliadau busnes. Trwy’r gwaith hwn, nod yr ymchwil yw datblygu dealltwriaeth gyfoethog, ar sail cyd-destun o sut y mae disgwyliadau o ran rhywedd ac anghydraddoldebau strwythurol yn llywio arferion entrepreneuraidd pob dydd. Yn benodol, bydd yr astudiaeth yn edrych ar sut y mae menywod yn llywio rhyngweithio proffesiynol, yn sefydlu hygrededd, ac yn cyrchu adnoddau mewn mannau lle mae eu cyfranogiad yn cael ei weld yn anghonfensiynol neu’n eithriad yn aml.

  • Gwobrau Datblygu Ymchwil: Grant Diwylliant Ymchwil

    Enillwyr: Nikki Ewing, Darlithydd Addysg, a Lisa Formby, Arweinydd Ymchwil mewn Addysg.

    Gweithdai Ysgol Ddoethurol yn Llyfrgell Gladstone

    nikki and lisa headshots

    Cafodd £1,500 ei ddyfarnu i Nikki Ewing a Lisa Formby drwy’r cynllun Grant Diwylliant Ymchwil mewnol. Mae prosiect Nikki a Lisa yn hyrwyddo llesiant a datblygiad proffesiynol staff sy’n cyflawni EdD neu PhD ochr yn ochr â’u swyddi academaidd. Mae eu cynnig yn ychwanegu at drafodaethau a phrofiadau cyffredin ar draws y gyfadran, sy’n tynnu sylw at ddyhead torfol am leoedd cefnogol, ysbrydoledig lle y gall cydweithwyr gysylltu, myfyrio a thyfu yn ystod eu teithiau doethurol.

  • Gwobrau CanfodAu: Grant Arloesi

    Enillydd: Barry Johnston, Cydymaith Ymchwil mewn Peirianneg Hydrogen

    Technoleg Gwresogi Isgoch wedi’i Thargedu

    barry johnston headshot

    Cafodd Barry Johnston £10,000 (cysylltwch â Barry am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect hwn).

    Dyluniwyd y Grant Arloesi CanfodAu i gefnogi ymchwil newydd ac i gyfrannu at ddatblygu prif feysydd mewn Peirianneg, er enghraifft, cyfansoddion, ynni adnewyddadwy, a systemau pŵer. 


    Enillydd: Dr Mobayode Akinsolu, Darllenydd mewn Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol a Pheirianneg Electronig

    Datblygu Antena Cadarn a Chynaliadwy ar gyfer Gofal Iechyd yn y Dyfodol

    mobayode akinsolu head and shoulders

    Cafodd Dr Akinsolu £10,000 i ddatblygu a dilysu antena y gellir ei wisgo, sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac sy’n perfformio’n ddibynadwy dan amodau’r byd go iawn. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar greu cydran galluogi allweddol ar gyfer technolegau iechyd y gellir eu gwisgo yn y dyfodol, gan ddefnyddio deunyddiau bioddiraddadwy neu adnewyddadwy yn hytrach na phlastigau confensiynol.

    Er bod llawer o gydrannau electronig “gwyrdd” yn dangos perfformiad addawol mewn labordy, maent yn aml yn diraddio pan ddônt i gysylltiad ag amodau gwisgo pob dydd, fel lleithder, plygu, neu weithio’n agos at y corff. Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r her honno drwy ddylunio’r antena i oddef amrywioldeb bywyd go iawn a thrwy brofi ei berfformiad yn fanwl dros amser, yn hytrach na dibynnu ar fesuriadau untro.

  • Gwobrau CanfodAu: Grant Cronfa Sbarduno

    Enillydd: Dr Omprakash Mathusamy, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Haenau Tenau Gwactod yn y Ganolfan OpTIC, Llanelwy.

    Enillydd: Dr Chris Nyamayaro, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Technolegau Ffotoneg yn y Ganolfan OpTIC, Llanelwy.

    Datblygu Ynni Adnewyddadwy a Ffotoneg: Gorchuddion Solar Sawl Swyddogaeth a’r Cyfleuster cyntaf Profi Difrod a Achosir Gan Laser yn y DU

    omprakash and chris headshots

    Cafodd dau brosiect £5,000 o gyllid yr un i ddatblygu technolegau arloesol y gellir eu defnyddio yn y byd go iawn.

    Bydd Dr Omprakash Muthusamy yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu gorchuddion cyfansawdd haen denau sawl swyddogaeth ar gyfer systemau ynni adnewyddadwy. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gyfuno perfformiad gwrth-adlewyrchu gyda gwydnwch mecanyddol gwell a sefydlogrwydd thermol gwell, gwella amsugniad golau ac effeithlonrwydd ynni mewn celloedd solar wrth gynnal tryloywder optegol.

    Bydd Dr Chris Nyamayaro yn sefydlu’r cyfleuster cyntaf yn y DU ar gyfer profi Trothwy Difrod a Achosir Gan Laser sy’n bwrpasol i’r byd academaidd a’r byd masnachol, gan alluogi ymchwil a phrofion diwydiant ar gyfer cydrannau optegol pŵer uchel. Bydd y cyfleuster hwn yn cefnogi ynni adnewyddadwy, systemau pŵer, a roboteg drwy wella gwydnwch opteg, hwyluso gweithgynhyrchu yn seiliedig ar laser, a gwella dibynadwyedd synwyryddion laser ar gyfer systemau ynni ac awtomeiddio diwydiannol. 

  • Gwobrau Cyfiawnder: Grant Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol

    Enillydd: Dr Dawn Jones, Uwch Ddarlithydd Gofal Cymdeithasol

    Deall Tlodi yn y Byd Go Iawn

    head and shoulders of dawn jones

    Cafodd Dr Jones Grant Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol gwerth £5,000 i gefnogi astudiaeth newydd sy’n edrych ar sut y mae gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd yng Nghymru yn deall ac ymateb i dlodi yn eu hymarfer diogelu pob dydd.

    Daw’r ymchwil hon ar adeg hollbwysig. Mae’r gyfradd dlodi yn parhau i godi yng Nghymru, ac mae tlodi plant yn cynyddu deirgwaith yn gynt yn Wrecsam na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn 2024, roedd bron i 8,000 o blant yn Wrecsam yn byw mewn tlodi difrifol, a mwy na 1 ym mhob 10 o drigolion yn dibynnu ar fanciau bwyd am gymorth. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth yn dangos cydberthynas cryf rhwng amddifadedd a nifer y plant sy’n cael eu cofrestru i’r system ofal. Er gwaethaf hyn, prin yw’r wybodaeth ynghylch sut y mae gweithwyr cymdeithasol yn cydnabod ac yn ymateb i dlodi wrth wneud penderfyniadau ynghylch esgeulustod a risg plant.

    Bydd prosiect Dr Jones yn ystyried a yw ffactorau economaidd-gymdeithasol wirioneddol yn dylanwadu ar arfer o ddydd i ddydd, yntau a yw tlodi, fel mae rhai ymchwiliadau’n ei awgrymu, wedi dod yn “bapur wal” gwaith cymdeithasol nad oes neb yn sylwi arno.


    Enillydd: Dr Ian Davies-Abbott, Uwch Ddarlithydd Nyrsio.

    Ystyried Effaith Wrecsam: Effeithiau Gwybyddol a Chymdeithasol Cyfranogiad Pêl-droed Cerdded

    black and white headshot of ian

    Bydd y cyllid hwn yn cefnogi astudiaeth newydd a fydd yn cael ei harwain gan Dr Ian Davies-Abbott, gyda Sara Hilton a Dr Christopher White yn cyd-arwain. Bydd y prosiect dulliau cymysg hwn yn ystyried y cymhellion, y profiadau a’r buddion iechyd gwybyddol sy’n ymwneud â chymryd rhan mewn pêl-droed cerdded, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddylanwad ‘Effaith Wrecsam’. Trwy gyfweliadau lled-strwythuredig, bydd yr ymchwil yn casglu barn bersonol ynghylch pam y mae unigolion yn dewis cymryd rhan, sut y mae’r cefndir economaidd-gymdeithasol yn llywio cyfranogiad, a sut y mae hunaniaeth gymunedol yn cyfrannu at gyfranogiad.

    Yn ogystal â hyn, bydd rhaglen blwyddyn o hyd o asesiadau gwybyddol gyda chyfranogwyr pêl-droed cerdded a grŵp rheoli yn ymchwilio i a yw ymgysylltiad parhaus yn y gweithgaredd hygyrch, effaith isel hwn yn cefnogi gwelliannau mewn meysydd allweddol o’r swyddogaeth wybyddol.

    Mae’r astudiaeth yn ymateb i brif heriau yng Nghymru, lle mae oedolion hŷn, yn enwedig y rhai mewn cymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol, yn parhau’n llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Trwy ehangu dealltwriaeth o’r ysgogwyr, y rhwystrau a’r canlyniadau tebygol i iechyd yr ymennydd sy’n gysylltiedig â phêl-droed cerdded, bydd y prosiect yn llunio tystiolaeth a all gyfrannu at bresgripsiynu cymdeithasol, datblygu chwaraeon cymunedol, a pholisi iechyd cyhoeddus.

  • Gwobrau Cyfiawnder: Grant Cydweithredu a Chyd-greu

    Enillydd: Dr Tracy Simpson, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yn y Prosiect Dinasyddion Ecolegol.

    Addysg Gynaliadwy mewn ysgolion yng Nghymru

    headshot of tracy

    Mae Dr Tracy Simpson wedi cael cyllid drwy Grant Cydweithio a Chyd-greu: Cyfiawnder i gynnal prosiect ymchwil ar y cyd i edrych ar sut y mae addysg gynaliadwy yn cael ei rhoi ar waith ac yn cael ei chefnogi ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd y prosiect yn archwilio heriau cyfredol, yn nodi heriau a chyfleoedd, ac yn cynhyrchu tystiolaeth i helpu i gryfhau polisi ac ymarfer mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

    Caiff yr ymchwil ei harwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o Brifysgol Wrecsam sy’n cynnwys Tracy, Rebecca Upton, a Daniel Knox, gan dynnu arbenigedd o addysg, cynaliadwyedd, ymarfer creadigol, a dulliau ymchwil at ei gilydd. Bydd ysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil hefyd yn gweithredu fel cydweithredwyr allweddol, gan gyfrannu eu harbenigedd a’u profiadau bywyd drwy gydol y prosiect. Bydd athrawon ac arweinwyr ysgolion hefyd yn helpu i nodi meysydd o flaenoriaeth i’w datblygu, wrth i ddisgyblion ac aelodau’r eco-bwyllgor gyfrannu eu safbwyntiau ar sut y dylai addysg gynaliadwy edrych pan mae ar waith. 


    Enillydd: Lisa Formby, Arweinydd Ymchwil mewn Addysg.

    Effaith Ysgol Fferm ar Lesiant Disgyblion Cynradd a’u Hymgysylltiad â Dysgu

    Mae Lisa Formby wedi cael cyllid drwy Grant Cydweithio a Chyd-greu: Cyfiawnder i gynnal prosiect ymchwil ar y cyd gydag Ysgol Gynradd yng ngogledd Cymru. Bydd tîm y prosiect yn edrych ar effaith ysgol fferm sydd wedi’i chynnwys mewn ysgol gynradd ar lesiant disgyblion cynradd a’u hymgysylltiad â dysgu. Bydd plant yn ‘ymchwilwyr bach’ ym mhob cam o’r broses ymchwil, o’r cam dylunio ymchwil a chasglu data hyd at ddadansoddi a rhannu.

    Mae’r tîm ymchwil ryngddisgyblaethol hefyd yn cynnwys Dr Sue Horder, Dr Karen Rhys Jones, a Monty Kennard o’r Adran Addysg a Phlentyndod, ynghyd ag Angela Winstanley o’r adran Gwyddorau Anifeiliaid (campws Llaneurgain). Caiff y prosiect ei gynnal mewn partneriaeth agos â’r Pennaeth yn yr Ysgol Gynradd ddewisol, a fydd yn gweithredu fel porthgeidwad a chynghorydd ar y prosiect. Bydd disgyblion o Flwyddyn 5 a Blwyddyn 6 yn ganolog i’r ymchwil fel cyd-ymchwilwyr.


    Enillydd: Dr Grace Thomas, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymgysylltu â’r Celfyddydau.

    Anabledd a Hygyrchedd y Celfyddydau yn Wrecsam

    Head and shoulders picture of Researcher

    Cafodd Dr Grace Thomas, ynghyd â phartneriaid o’r gymuned o Brosiect Glowyr Wrecsam, Celfyddydau Cymunedol Emerge, a Mind Gogledd-Ddwyrain Cymru, gyllid drwy Grant Cydweithio a Chyd-greu: Cyfiawnder i ddatblygu prosiect ymchwil ar y cyd sy’n edrych ar hygyrchedd y celfyddydau yn Wrecsam.

    Bydd y prosiect yn edrych ar sut y mae pobl anabl a gofalwyr yn cyrchu ac yn profi darpariaeth y celfyddydau yn yr ardal leol, drwy ddefnyddio ymarfer celfyddydau cymhwysol a dulliau ymchwil dan arweiniad y gymuned. Mae’r ymchwil wedi’i gwreiddio yn y model cymdeithasol o anabledd, ac ein nod yw nodi rhwystrau i gyfranogiad wrth greu cyfleoedd hygyrch, ystyrlon a chreadigol i bobl anabl a’r rhai sy’n rhoi gofal.

    Gan ychwanegu at y fforymau cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2025 a oedd yn canolbwyntio ar anabledd a hygyrchedd y celfyddydau, bydd y prosiect yn tynnu arbenigedd academaidd ac o’r trydydd sector ynghyd i gyd-ddylunio dulliau ymchwil, cynnal gweithgareddau celfyddydau cyfranogol, a dadansoddi adborth y gymuned. Bydd partneriaid yn cydweithio i greu rhwydwaith celfyddydau a llesiant cynaliadwy yn Wrecsam, gan gefnogi rhannu gwybodaeth, allgymorth cymunedol, a datblygu ymchwil yn y dyfodol.

  • Gwobrau’r Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd: Grant Ymchwil Rhyngddisgyblaethol

    Enillydd: Angela Winstanley, Prif Ddarlithydd Astudiaethau Anifeiliaid a’r Amgylchedd Naturiol.

    Cysylltiad Rhwng Llesiant Anifeiliaid a Bodau Dynol

    Bydd y wobr hon yn ariannu prosiect ymchwil newydd ar draws cyfadrannau a fydd yn edrych ar sut y mae gweithwyr proffesiynol yn deall y cysylltiad rhwng cam-drin anifeiliaid a cham-drin bodau dynol. Caiff y prosiect ei arwain gan Angela Winstanley, a bydd tîm hynod gydweithredol yn ymuno â hi, sy’n cynnwys Kelly Eyre (Nyrsio Milfeddygol), Gwenan Evans (Nyrsio Milfeddygol, gydag arbenigedd yn y Gymraeg), Liam Walker (Nyrsio Milfeddygol), Dr Tamsin Young (Ymddygiad Anifeiliaid), Dr Shuba Sreenivas (Seicoleg), Dr Sue Horder (Addysg a newid mewn ymddygiad), a Rachel Byron (Troseddeg, Plismona a’r Gyfraith), yn ogystal â myfyriwr Nyrsio Milfeddygol o’r drydedd flwyddyn. Mae’r prosiect hefyd yn elwa ar arbenigedd The Links Group, sefydliad cenedlaethol, sawl asiantaeth sy’n arbenigo yn y cysylltiadau rhwng lles anifeiliaid, llesiant bodau dynol, a diogelu.

    Gyda’i gilydd, bydd y tîm rhyngddisgyblaethol hwn yn ymchwilio i sut y mae gweithwyr proffesiynol mewn meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, plismona, meddygaeth filfeddygol, seicoleg, ac addysg yn adnabod ac yn dehongli’r cysylltiadau rhwng niwed i anifeiliaid a niwed i bobl. Drwy ddefnyddio’r fframweithiau Un Iechyd ac Un Lles, sy’n pwysleisio bod llesiant dynol, anifeiliaid a’r gymuned yn gydgysylltiedig, bydd yr astudiaeth yn edrych ar wybodaeth, agweddau, a lefelau hyder cyfredol, yn ogystal â bylchau posibl mewn ymwybyddiaeth ar draws sectorau.

  • Gwobrau’r Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd: Grant Datblygiad Personol Ymchwil Bach

    Dr Chelsea Batty, Prif Ddarlithydd Ffisioleg Ymarfer Corff / Arweinydd Proffesiynol Peripatetig

    Bydd Chelsea yn cynnal astudiaeth achos a fydd yn edrych ar ddefnyddio ymyrraeth ymarfer corff i glaf gyda math prin o lewcemia, dan arweiniad fframwaith adsefydlu canser yr American College of Sports Medicine. Gan nad yw llawer o ganolfannau adsefydlu’r DU yn derbyn cleifion gyda chanser prin, bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â blwch arwyddocaol mewn darpariaeth. Bydd cyllid yn cefnogi mynediad i gampfa, teithio a rhannu yn y Gynhadledd Adsefydlu mewn Oncoleg a Goroesedd Canser. Bydd yr astudiaeth yn cynhyrchu data pwysig ar ymarferoldeb a diogelwch, gan gryfhau ymchwil ac ymarfer mewn adsefydlu oncoleg a chyfrannu at bolisi’r dyfodol.

     chelsea head and shoulders

    Dr David Crighton, Uwch Ddarlithydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, a Dr Kirsty Fuller, Uwch Ddarlithydd Addysg (Statws Athro Cymwys)

    Bydd y cyllid yn ychwanegu at eu hymchwil ar intrapreneuriaeth academaidd a rhwystrau sefydliadol mewn addysg uwch yn y DU drwy dreialu agwedd newydd sy’n canolbwyntio ar lywodraethu. Gan ychwanegu at waith cynharach yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, bydd y prosiect yn dadansoddi sut y mae dogfennau llywodraethu ffurfiol yn llunio blaenoriaethau masnachol, ariannol, ac o ran myfyrwyr. Bydd ymweliadau ymchwil gydweithredol i Fanceinion gyda’r Athro Steve Jones yn rhoi sglein ar y dulliau dogfennu ac yn cryfhau’r sylfeini ar gyfer cyhoeddiadau’r dyfodol a chynigion ariannu.

     head and shoulders of dave

    Dr Tegan Brierley-Sollis, Uwch Ddarlithydd Plismona, Troseddeg, a Dulliau sy’n Ystyriol o Drawma, a Natalie Saunders, Darlithydd Troseddeg

    Bydd Tegan a Natalie yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol yn y Gynhadledd Justice as Trauma, Canada, gan dynnu ar ymchwil mewn ymarfer niwroamrywiaeth ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma. Bydd eu sesiwn yn ystyried sut y gall ymchwil sy’n ystyriol o drawma a chadarnhaol am niwroamrywiaeth gael ei gwreiddio mewn rhaglenni addysg uwch i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd cyfiawnder troseddol. Bydd ymgysylltu rhyngwladol yn cryfhau cipolygon cymharol ac yn cefnogi cydweithrediadau ymchwil ar draws y byd yn y dyfodol.

     tegan and natalie head and shoulders

    Dr Gwennan Barton, Uwch Ddarlithydd Seicoleg Wybyddol

    Bydd Gwennan yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu ymchwil sy’n edrych ar y cysylltiad rhwng math seicolegol a’r synnwyr o gyfeiriad. Mae’r astudiaeth yn mynd i’r afael â bwlch yn y llenyddiaeth drwy ystyried a yw’r ddamcaniaeth math seicolegol yn berthnasol i allu llywio a adroddwyd yn bersonol. Bydd cyllid yn cefnogi casglu data, rhannu yng Nghynhadledd Flynyddol Adran Wybyddol Cymdeithas Seicolegol Prydain 2026, hyfforddiant arbenigol ac adnoddau ymchwil allweddol, cryfhau arbenigedd methodolegol mewn seicometrig ac ymchwil gwahaniaethau unigol.

     head and shoulders of gwen

    Dr Paige Tynan, Uwch Ddarlithydd Biowyddorau

    Bydd Page yn defnyddio’r cyllid i ehangu ei phlatfform ymchwil doethurol, Decompanion, drwy ddatblygu llyfrgell model digidol 3D gan ddefnyddio ffotogrametreg. Bydd cyllid yn cefnogi cyfarpar delweddu arbenigol, gwelliannau i seilwaith a chreu data sy’n cael ei gefnogi gan fyfyrwyr. Bydd y gwelliannau hyn yn cryfhau ymchwil taffonomeg fforensig, yn gwella cyffelybrwydd traws-sefydliadol ac yn ehangu statws Decompanion fel adnodd digidol cyffredin ac adnodd addysgu.

  • Gwobrau’r Gyfadran Celfyddydau, Cyfrifiadureg, a Pheirianneg: Grant Ymchwil Rhyngddisgyblaethol

    Enillydd: Dr Linglin Li, Uwch Ddarlithydd Peirianneg Sifi

    Ymchwil Deunyddiau Ffyrdd Cynaliadwy

    linglin li head and shoulders

    Cafodd Grant Rhyngddisgyblaethol FACE gwerth £5,000 ei ddyfarnu i brosiect trawsgyfadrannol sy’n edrych ar ffordd newydd, wyrddach o adeiladu ac atgyweirio ein ffyrdd. Arweinir y prosiect gan Dr Linglin Lee, sy’n gweithio ochr yn ochr â Dr Jixin Yang, Dr David Sparke, a’r Athro Xiangming Zhou o Brifysgol Brunel, Llundain. Mae’r tîm amrywiol hwn yn dod ag arbenigedd mewn amgylchedd adeiledig, cemeg, peirianneg a chynaladwyedd.

    Bwriad yr ymchwil yw trawsnewid rhywbeth cyffredin, sef gwellt dros ben, yn rhywbeth rhagorol: rhwymwr adnewyddadwy, sy’n cywiro ei hun a allai un diwrnod gymryd lle bitwmen traddodiadol, seiliedig ar ffosil sy’n cael ei ddefnyddio ar arwynebau ffyrdd. Bydd Dr Yang yn canolbwyntio ar drawsnewid y gwellt yn fio-olew defnyddiadwy, bydd Dr Sprake yn asesu pa mor gyfeillgar i’r amgylchedd a pha mor effeithiol o ran cost yw’r dull, a bydd yr Athro Zhou yn helpu i ddeall sut y bydd y deunydd newydd yn ymddwyn pan gaiff ei gymysgu â deunyddiau ffordd presennol a sut y bydd yn cywiro ei hun dros amser. Bydd Dr Li yn cydlynu pob agwedd ar y prosiect drwy ganolbwyntio ar nodweddiad bio-bitwmen a pherfformiad deunydd bitwmen. 

  • Gwobrau’r Gyfadran Celfyddydau, Cyfrifiadureg, a Pheirianneg: Grant Datblygiad Personol Ymchwil Bach

    Yr Athro Alec Shepley, Athro’r Celfyddydau a Chymdeithas

    Cafodd Alec gyllid ar gyfer Gweithdai Mapio Cymunedol i Blant a Phobl Ifanc yn Ystafell Drefol Wrecsam. Fel rhan o’r prosiect cydweithredol Llwyfan Map Cyhoeddus, bydd y prosiect yn treialu dulliau creadigol, seiliedig ar y celfyddydau o gynllunio cyfranogol, a fydd yn cynhyrchu cipolygon newydd ar sut y mae pobl ifanc yn deall ac yn llywio eu hamgylchedd adeiledig lleol.

     headshot of alec

    Dr Grace Thomas, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymgysylltu â’r Celfyddydau

    Bydd Grace yn datblygu ymchwil celfyddydau hygyrch drwy gryfhau partneriaethau â sefydliadau sy’n cynnwys Prosiect Glowyr Wrecsam, Celfyddydau Cymunedol Emerge, Mind Gogledd-Ddwyrain Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Mae ei gwaith yn gwella dulliau cyfranogol a gyd-ddyluniwyd ar gyfer anabledd, celfyddydau ac ymchwil gymunedol.

     Head and shoulders picture of Researcher 

    Karolina Athena Skorek, myfyriwr PGR mewn Celf

    Bydd Karolina yn cynnal gwaith maes ymateb i safle yn Silesia ôl-ddiwydiannol, a fydd yn cynnwys ymwneud ag Amgueddfa Silesia, i ddatblygu rhagor ar ei PhD gweledol rhyngddisgyblaethol sy’n edrych ar alar, cof a thirwedd.

     karolina head and shoulders

    Dmitrii Iarovoi, myfyriwr PGR mewn Cyfrifiadura

    Mae Dmitrii wedi cael cefnogaeth i fynd i Ysgol Haf Dysgu Peirianyddol Rhydychen (OxML 2026). Mae PhD Dmitrii yn datblygu cyfrwng AI cynhwysol, moesegol ar gyfer sector treftadaeth Cymru, a bydd yr hyfforddiant hwn yn cryfhau ei arbenigedd mewn AI cynhyrchiol, dysgu cynrychiolaeth a systemau AI diogel y gellir eu hehangu.

     dmitrii headshot

    Dr Adam Knowles, Uwch Ddarlithydd Seiber a Chyfrifiadura

    Bydd y cyllid hwn yn datblygu ymchwil Adam yn y croestoriad rhwng astroffiseg a dysgu peirianyddol, yn anelu at gyhoeddi yn Hysbysiadau Misol y Gymdeithas Seryddol Frenhinol a chefnogi dadansoddi data o arolygon fel WEAVE-StePS a MOONRISE. Bydd cyllid ar gyfer adnoddau cyfrifiadurol pwrpasol yn gwella galluoedd ymchwil ar draws staff a myfyrwyr.

    adam head and shoulders