decorative

Polisiau, stratagaethau a chynlluniau cynaliadwyedd

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i ddeall a rheoli ei effaith ar yr amgylchedd. Ein cenhadaeth yw gweithio mewn partneriaeth leol a byd-eang i ysbrydoli ac addysgu ein myfyrwyr a helpu i yrru llwyddiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ein rhanbarth a thu hwnt. Fel sefydliad angor, byddwn yn cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd ein rhanbarth. Ceir ein hymrwymiad i amgylchedd cynaliadwy ei amlygu yn ein hymdrechion academaidd, ein dull o reoli a datblygu ein campws, ystadau, cyfleusterau, trafnidiaeth, a gweithgareddau, yn ogystal â'n eiriolaeth gyhoeddus.

Strategaeth Cynaliadwyedd yr Amgylchedd

Bydd ein strategaeth yn siapio’r sefydliad i er mwyn iddo dderbyn cydnabyddiaeth o arddangos arfer gorau mewn rhagoriaeth amgylcheddol a chynaliadwy.

Datganiad Polisi Rheolaeth Ynni a Chynaliadwyedd

Fel Prifysgol sy’n anelu i ysbrydoli, addysgu a galluogi llwyddiant, ein nod yw cynnal ein gweithredoedd i adlewyrchu’r arferion amgylcheddol gorau. Bydd ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn darparu fframwaith strategol i ddylanwadu ar a siapio’r sefydliad i ddatblygu a gweithredu’r arferion gorau mewn perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Rheoli Carbon

Rhwydwaith o wirfoddolwyr yw Hyrwyddwyr Gwyrdd sy'n cynnwys staff a myfyrwyr. Maent yn gweithio gyda'i gilydd i wneud PGW yn lle mwy cynaliadwy a gwyrdd i weithio ac astudio. Maent yn adrodd i'r Gweithgor Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd a'r Fforwm Gweithredu ar Gynaliadwyedd Heddiw mae'n bwysicach nag erioed i ddod yn brifysgol fwy gwyrdd ac effeithlon. Mae PGW yn darparu sesiwn hyfforddi awyr agored flynyddol ar gyfer ei holl hyrwyddwyr gwyrdd.

Rheolaeth Trysorfa

Wedi'i ddatblygu i gefnogi nodau PW i fuddsoddi ei gronfeydd gan roi ystyriaeth ddyledus ar faterion moesegol, amgylcheddol, corfforaethol a chymdeithasol. Mae'r polisi'n berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill y Grŵp a'i nod yw rhoi llais i randdeiliaid mewn materion moesegol, amgylcheddol a chynaliadwyedd. Nid ydym yn dal unrhyw fuddsoddiadau ar hyn o bryd ond bydd manylion unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol yn cael eu rhestru yn yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol perthnasol. Nid oes gan y brifysgol fuddsoddiadau ac felly mae’n rhydd rhag buddsoddiadau mewn cwmniau tanwydd ffosil. Petai’r brifysgol yn penderfynu buddsoddi, byddai’n gwneud hynny yn unol â’r pwyllgor Rhydd Rhag Ffosil sydd ynghlwm â’n Polisi Buddsoddiad Moesegol.

Bwyd Iach, Cynaliadwy

Yn unol ag ymrwymiad Polisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd PGW i gaffael mewn modd cynaliadwy, i ystyried ffactorau moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae ganddo gyfrifoldeb i ddarparu bwyd maethlon a ffynonellau cynaliadwy i'w gwsmeriaid.

Bioamrywiaeth

Cyflogadwyedd Moesegol yn y gadwyn cyflenwad

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gaffael Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bwriad y Cod hwn yw sicrhau bod modd cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf ledled Cymru, a hynny gan weithlu a gaiff ei drin yn gyfreithlon, yn deg ac yn ddiogel, ac a gaiff gyflog da. Mae’r Cod hwn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried hyrwyddo’r Cyflog Byw mewn contractau perthnasol.

Ewch i'n tudalen cyfrifoldebau i ddarganfod mwy am sut rydym ni fel cyflogwr wedi ymrwymo i greu diwylliant cynaliadwy a theg.

Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Moesegol