Students discussing results after using a simulation dummy

Graddau Nyrsio ac Iechyd Perthynol

Cychwyn ar yrfa foddhaus a pharatoi'r ffordd ar gyfer dyfodol gofal iechyd ar un o'n graddau Nyrsio ac Iechyd Perthynol. 

Ar gael ar draws ein campysau Plas Coch a Llanelwy, bydd gennych fynediad at dechnoleg a chyfleusterau arloesol, gan roi mantais i chi pan fyddwch yn cymhwyso.   

Gyda graddau a ariennir gan y llywodraeth ac opsiynau llwybr cyflym ar gael, nid oes dim yn eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial.   

Cofrestrwch Eich Diddordeb Gweld Ein Cyrsiau

Large nhs wales logo

Bwrsariaeth y GIG

Mae bwrsariaeth GIG nad yw’n ad-daladwy ar gael ar gyrsiau gofal iechyd dethol pan fyddwch yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cofrestru.

Cyrsiau Nyrsio ac Iechyd Perthynol

Natalie - nursing student

Natalie Chisholm

BN (Anrh) Nyrsio Oedolion

“Fe wnes i ymweld â champysau Wrecsam a Llanelwy ar ddiwrnodau agored a chefais fy synnu gan ba mor dda yw'r cyfleusterau ar gyfer y cwrs. Mae'r cwrs yn gymysgedd gwych o sesiynau academaidd ac ymarferol. Mae gennym lawer o ddiwrnodau 'sgiliau' felly rydyn ni'n cael bod yn ymarferol a dysgu mwy am y maes.”

Natalie Chisholm, BN (Anrh) Nyrsio Oedolion